Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

budron yn hongian ymhob man, y tu mewn i'r drws, ar droed y grisiau, ar y ffenestr a thros y cadeiriau. Ac am faw Lhidw ymhob cwrr; cymaint ohono nes bod llwybr i'r Ue tân o droed y grisiau ac o'r drws. Ar gadair ger y tân yr oedd swp o rywbeth yn eistedd. A dyna'r cwbwl a welais, cyn i Tomos fy anfon allan drwy'r drws, ei gau yn fy wyneb a fy nilyn ymhen munud neu ddau i holi fy neges. Rhoddais y llythyr iddo heb feddwl mai Saesneg oedd o a deuthum adre. Chysgais i 'run winc y noson honno, gwelwn y swp hwnnw yn eistedd ar y gadair wrth y tân yn y baw a'r lludw a'r sachau. Gwelais Tomos drannoeth ac esboniais y llythyr iddo ond ni soniodd o na minnau yr un gair am Elin a'r ty. Ac i bob pwrpas llithrodd pethau'n ôl yn dawel fel o'r blaen. Tan nos Fawrth. Noson o farrug oedd hi, noson dawel serennog braf. John Ty Pella ddaeth i weiddi dan y ffenestr yma fod Penlan ar dân ac erbyn imi gyrraedd yno fe welwn John ar ben ysgol yn malu ffenestr y llofft a Tomos yn sefyll wrth Ty Pella yn syllu'n syn ar y mwg yn troelli'n gwmwl tew o gwmpas ei gartre. Gweiddais arno lle 'roedd Elin a dangosodd y ty imi. Rhedais o dan ysgol John Ty Pella ac i mewn. 'Rwy'n gweld y gegin fel pictiwr o 'mlaen y funud 'ma. Dim sach, dim baw, dim lludw- pob man fel pin mewn papur a thân braf yn y grât. A hithau'n dri o'r gloch y bore! Rhaid imi frysio, mae o fewn pum munud i amser post. Fe gei yr hanes i gyd pan ddoi yma. Mae yma lawer y bydd yn dda ganddynt dy weld wedi'r holl flynyddoedd. Un gair i orffen am y tân. 'Roedd y grisiau yn wenfflam pan euthum i mewn ac fe losgwyd Elin druan. 'Dwyr neb be achosodd y tân. Mae Tomos yn rhy hurt i ddweud dim yn iawn, fe sonia rywbeth am stof ac eirio dillad. Ond efallai nad ydyw mor hurt chwaith. Fe ddaeth â dau foes pres allan yn ei ddwylo, un Elin a'i un yntau. A be ddyliet ti oedd ym mocs Elin ? Yr holl bapurau chweugain a gafodd hi ar ôl Ellis a phwt o bapur yn edrych fel tase fo'n newydd ac Elin wedi sgwennu arno fo-" Ellis pia nhw." Dyma fo Huw Rolant y postman yn dod heibio Ty Pella. Cofia, y trên deg o Gaer. Cofion calon, Dy frawd, ARTHUR.