Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iol yn wir oedd digwyddiad fel hwn pan oedd Ffrainc o dan sodlau'r gelyn, ac yntau heb wybod dim am lafur Vercors," er gwaethaf holl sbio a strytian y Gestapo. A chofiwn mai gwaith penigamp ydyw Le Silence de la Mer nid rhyw lais bach main a dorrodd ar fudandod Ffrainc, ond huawdledd eofn gŵr a oedd yn feistr ar ei waith. Meddyliwch am ramant y llyfr bychan hwn. Ym Mehefin, 1940, dyma glep ar ddrws Rhyddid, a'r Almaenwr yn gweiddi Cryfach yw'r Cledd na'r Gair; y mae diwedd am fil o flynyddoedd ar eich Uenyddiaeth." Ond dechreuodd Vercors a'i gyd-lenorion ysgrifennu mewn cuddfannau o dan y ddaear er mwyn herio gaUu'r Almaen i ddinistrio ysbryd dyn. Buont yn tystio bod hen arbenigrwydd Ffrainc, sef ei gallu i ddioddef dros ryddid, yn fyw o hyd. Buont wrthi'n beirniadu bychandra meddwl a saldra enaid y concwerwr cryf. Tra oedd yr awduron hyn, beirdd a Uenorion Ffrainc a gododd ei chroes yn 1940,-tra oeddynt yn profi bod eu gwlad yn cyfrif ei chroes yn goron,clywsant beunydd beunos dwrw traed y gelyn ar y palmentydd uwchben. Ond treiddiodd y llyfr bach drwy balmant a thiroedd ac awyr y gelyn i ryddid Llundain, yn sicr o'i groeso. Ysgrifennwyd Le Silence de la Mer er coffadwriaeth am y bardd Saint- Pol-Roux, a lofruddiwyd gan yr Almaenwyr. Plot syml sydd i'r stori, ond cymhleth iawn ydyw profiadau enaid ei thri chymeriad pennaf. Rhag ofn bod rhywrai o ddarllenwyr LLEUFER heb ei darllen, dyma fraslun ohoni Hen gartref cyfforddus yn y wlad yn Ffrainc, gŵr yn byw ynddo, a merch ifanc, ei nith, yn cadw'r ty. (Y gŵr sy'n adrodd yr hanes). Almaenwr, swyddog milwrol, yn disgyn yno i letya. Ei enw, Werner von Ebrennac, yn awgrymu rhywfaint o waed Ffrengig. Deuai'n aml at y tân i ystafell y ddau a byddai'n dweud wrthynt fwyfwy o'i hanes bob tro, — ei edmygedd ef, a'i dad o'i flaen, o draddodiadau Ffrainc. Câr Ebrennac ei genedl ei hun hefyd, ond nid arbed y wialen ar ei gwendidau. Iddo ef, Bwystfil (grym heb enaid) ydyw'r Almaen, a'r Brydferth (enaid anfarwol) ydyw Ffrainc. Rhyw siarad wrtho'i hun oedd lleferydd y swyddog, a'r ddau arall yn fud, mudandod di-dor urddasol gerbron y gelyn,-yr hen ŵr yn smocio'n dawel a'r ferch ifanc heb godi ei golwg byth oddi ar ei gwaith gwnïo. Y llanc yn syllu arni ac yn gweled holl swyn Ffrainc yn ei pherson hi. Swm ei lef- erydd oedd,-Mor llesol i'r Almaen a Ffrainc fyddai priodas rhyngddynt, uniad Grym ac Enaid. Ac wrth edrych ar y ferch breuddwydiai am briodas arall. Aeth i Baris am egwyl yno 'r oedd ei frawd a chyfeillion. Ni allai beidio â sôn wrthynt am ei obaith y byddai i'r ddwy wlad ddynesu at ei gilydd. Ond, druan ohono Dyma wawd a dirmyg yn disgyn arno fel bwystfilod,- na, nid priodferch ond caethferch fydd Ffrainc rhwym fydd hi am byth." Yn ôl â'r swyddog i'w lety. Anghofiwch bopeth," meddai. Ffarwel am byth i obaith." Diweddglo'r stori oedd iddo fynd ymaith i ymladd, ond nid ar dir Ffrainc. I'r dwyrain yr aeth, i Uffern." Cafodd adieu gan yr hen ŵr, a hefyd, o waelod calon, gan y ferch. Aeth at ei ddyletswydd â gwên ar ei wyneb. Ond corff Ebrennac yn unig a aeth. Pan ddaw heddwch, a ydym ni am geisio dyfod o hyd i'w ysbryd ym mechgyn yr Almaen ? Bydd ef a'i freuddwyd yn sicr o fod yno yn rhywle, canys gwên oedd ar ei wyneb. Nid Byddin Gorchwyl y gorchfygwr sydd i'w achub, ond cadwyn dwylo ieuenctid gwledydd y breintiau mawr.