Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PA BETH LW DDARLLEN AR LENYDDIAETH GYMRAEG GAN D. TECWYN LLOYD Oherwydd ehangder y testun, bydd yn rhaid imi gyfyngu fy sylwadau arno i amlinelliad yn unig, onid e, fe gyll yr erthygl bob gwastadrwydd, a hynny o gymorth y dichon ei roi i'r sawl a fynno ymdrin â llenyddiaeth Gymraeg. O'm rhan fy hun, buasai'n well gennyf ddelio â'r cyfnod diweddar yn unig, a hepgor amlinelliad anghyflawn, o angenrheidrwydd, o'r cyfnod i gyd. Sylwer, fodd bynnag, ar un peth. Nid ceisio trafod pa beth i'w ddarllen mewn llenyddiaeth Gymraeg, pa destunau a gweithiau, a wnawn, ond beth i'w ddarllen ar y testunau a'r gweithiau hyn mewn gair, pa weithiau beirniadol a hanesyddol y geUir eu darllen. Cyfyngir y maes, felly, i gryn fesur, canys, fel y gwyr pawb, ychydig hyd yma o weithiau beirniadol a geir ar ein llenydd- iaeth, yn arbennig ar ein llenyddiaeth ddiweddar, o 1920 ymlaen, dyweder. Canys, ar wahân i erthyglau mewn cylchgronau tebyg i'r Llenor, Y Traethodydd, Heddiw, Tir Newydd, ac ambell newyddiadur fel y Cymro a'r Faner, nid oes nemor ddim beirniadaeth ar lyfrau diweddar a chyfoes yng Nghymru. Purasom ein horgraff, a diwygiasom amryw o'r hen destunau; yr ydym yn weddol sicr o'n helfen Ladin a Thiwtonig; serch hynny i gyd, plentyn yr Eisteddfod Gystadleuol ydyw llawer gormod o lenyddiaeth a beirniadaeth Gymraeg ddiweddar. Y mae'n ffaith y gall myfyriwr wneud cwrs anrhydedd Cymraeg yn un o'n Prifysgolion heddiw heb ddarllen llinell o lenyddiaeth newydd a sgrifennwyd ar ôl 1925, a heb wybod dim yn y byd (pe cyfyngai ei ddarllen i'r cwrs swyddogol) am fudiadau creadigol diweddar Ewrop. Y mae gennym ddigon o adolygiadau; efallai yn wir y gellid ein cyhuddo o fod yn adolygwyr parod, ond beirniaid llenyddol cyffredin. Nid nad oes genym weithiau beirniadol wrth law chwaith. Soniodd J. Ellis Williams mewn dychangerdd unwaith am y pentyrrau o draethodau M.A. sy'n araf droi'n llwch yn llyfrgelloedd ein Prifysgolion. Llawer rhy wir ysywaeth, ydyw hyn. Cyhoeddwyd un traethawd ychydig flynyddoedd yn ôl, sef Safonau Beirniadu Barddoniaeth yng Nghymru yn y içeg Ganrif, gan Huw Llewelyn Williams, llyfr gwir werthfawr, ond digwyddiad eithriadol iawn ydyw peth fel hyn. Fodd bynnag, rhag crwydro gormod, deuwn yn ôl at y testun. Ar Y cyfnod cynnar y mae ymdriniaethau'r Athro Ifor Williams yn anhepgor. Darllener ei ragymadrodd i Canu Llywarch Hen, Canu Aneirin, Pedeir Keinc