Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CLYBIAU FFERMWYR IEUAINC AC ADDYSG GAN B. J. Daytjbs Gan amlaf, Gweinidog Addysg y Llywodraeth fydd yn ymdrin â phynciau addysg. Ond R. S. Hudson, Gweinidog Amaethyddíaeth, a ofynnodd i'r Barnwr Luxmoore a'i bwyllgorwyr ystyried Addysg Amaethyddol. Dangos- odd Mr. Hudson wir ddiddordeb yn y.mater, fel y tystia'i gynghorion i Glybiau Ffermwyr Ieuainc Cymru. Awgrymodd y dylasent ddarparu mudiad a gy- merai i mewn trwy ddenu holl drigolion ieuainc yr ardaloedd gwledig, ac ar ôl cael un corff felly, eu nawseiddio â'r delfryd o wasanaeth cymdeithasoL Gofynnodd hefyd iddynt ennyn diddordeb pobl ieuainc gwlad a thref ym mhwysigrwydd pethau'r wlad,-bywyd gwledig a'r diwydiant amaethyddol. Yn olaf, anogodd aelodau'r mudiad i barhau i ddysgu'n drwyadl ar ôl gadael yr ysgol, nid yn unig gelfyddyd a gwyddor ffarmio, ond hefyd gelfyddyd a gwyddor byw. Er bod yr awgrymiadau hyn, efallai, yn cynnwys mwy nag y llwyddodd hyd yn oed y clybiau gorau i'w gyrraedd hyd yn hyn, — ac yn ôl tystiolaeth W. S. Adams, Warden All Souls, yng Nghymru y mae nifer go dda o'r clybiau gorau-dengys rhai o'r clybiau eu bod o leiaf yn gweld y ffordd a awgrymwyd gan eu Prif Weinidog," ac wedi troedio ar hyd-ddi i chwilio'r tir. Yn aml cyfrennir yr addysg drwy drafod pynciau amherthynasol, ond nid dyna'r ffordd i ddenu holl drigolion ieuainc yr ardal," a'u harfer mewn gwasanaeth cymdeithasol. Gwnaeth llawer o'r clybiau waith da yn y cyfeiriad hwn, drwy daflu cyfrifoldeb. ar ysgwyddau'r aelodau, a dysgu iddynt ddwyn yr iau yn fore." Bu i lawer cymdeithas wledig drengi yn ystod blynyddoedd cyntaf y rhyfel, ond bod yn fwy gweithgar oedd tuedd y clybiau, a chymryd arnynt eu hunain lenwi bylchau gwasanaeth cymdeithasol. Canlyniad oedd hyn i'r cyngor cyntaf a gawsent gan drefnwyr y mudiad, sef bod dyletswydd arnynt i gadw cyfarfodydd trefnus, a chadw cofnodion cywir o'u cyfarfodydd. Gwelwyd eleni mewn cystadleuaeth un sir Lyfrau Cofnodion gwych, a'r mwyaf- rif mawr o'r banner cant clybiau yn cystadlu. I newid ychydig ar yr hen ddi- hareb, Deuparth gwaith ei drefnu," ac yr oedd aelodau Clybiau Ffermwyr Ieuainc wedi arfer trefnu. Yr oedd ymhlith yr aelodau rai heb fod â chy- sylltiad agos rhyngddynt ag amaethyddiaeth, ac felly daeth i raglenni'r clybiau destunau anamaethyddol, a chrefftau, a chyrddau adloniant. Gwelwyd cymdeithasau hyn yn galw am gynhorthwy'r mudiad, ac aelodau hyn yn llenwi swyddi pwysig cynghorau a chymdeithasau eraill. Gwelwyd newid mewn diddordeb ym mhethau'r wlad,-digon o newid i ddénu'r bobl ieuainc orau i aros yn y wlad, gan adael yr eilradd i fynd i lenwi