Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOSBARTH YN DYFOD FW OED GAN HEDD ALAW Ardal wledig ynghanol mynyddoedd Arfon, ac oddeutu mil o droedfeddi uwchlaw'r môr, ydyw ardal Mynydd Llandygâi. Beth amser yn ôl, cytunodd y Postfeistr Cyffredinol â chais yr ardalwyr i ddileu am byth yr enw ffiaidd hwnnw, Douglas Hill," a chawsom ymwared ag un peth a oedd yn ddrewdod yn ffroenau aml un ohonom. Gallwn ninnau ddweud, fel trigolion aml ardal wledig arall yng Nghymru, fod rhai cewri o dro i dro wedi eu geni a'u magu ar y mynydd hwn. A gawn ni enwi dau yn unig am y tro, sef, y diweddar W. H. Williams (" Gladstone y Gweithwyr"), a'r cerddor diwylliedig, John H. Roberts, a wnaeth gymaint i buro caniadaeth eglwysig. Chwarelwyr a thyddynwyr ydyw pawb bron o'r ardalwyr, ac nid oes odid dŷ yn yr ardal nad oes rywfaint o dir yn gysylltiedig ag ef. Y mae hanes trin y tir ac adeiladu'r tai yn yr hen amser yn ddiddorol dros ben. Ond, y tro hwn, rhaid dweud ychydig o hanes y dosbarth sydd yma. Ym mis Hydref, un mlynedd ar hugain yn ôl, ar derfyn Dydd Diolch- garwch am y Cynhaeaf, y galwyd y dosbarth gyntaf at ei gilydd i ystafell Capel Hermon (M.C.), a dyna fan cyfarfod y dosbarth bob tymor gaeaf oddi ar hynny. Ni wyddai ond ychydig ohonom beth oedd amcan y galw at ei gilydd y noson honno, a llai fyth a wyddem beth oedd Mudiad Addysg y Gweithwyr. Ni wyddai neb ohonom pwy oedd y gŵr ieuanc, eiddil yr olwg arno, a safai o'n blaen yn ein hannerch. Ar ddiwedd y cyfarfod, cawsom wybod mai gŵr ieuanc o Fethel, Arfon, ydoedd, a'i fod newydd orffen ei gwrs yn y coleg, ac mai Owen Parry oedd ei enw, enw sydd erbyn heddiw yn adnabyddus drwy Gymru. Ond yma, ar Fynydd Llandygái, yn dysgu dosbarth o chwarelwyr a thyddynwyr, y dechreuodd gyntaf ar ei waith gyda dosbarthiadau'r W.E.A. Cawsom gynulliad da iawn y noson gyntaf, a chawsom ninnau, aelodau'r dosbarth, gymaint o fwynhad nes troi'n genhadon yn ddiarwybod i ni'n hunain, ac eraill yn troi i mewn ac yn dymuno aros yn aelodau heb neb yn eu cymell, gan mor ddiddorol yr oedd yr athro'n trafod Hanes ac Economeg. Yn y diwedd, cododd y cwestiwn dyrys, Tybed a fyddai'r ystafell yn ddigon helaeth i gario ymlaen ? c Fel hyn y cynhaliwyd y dosbarth am chwe blynedd gyda,'r un athro, a fel y byddai'r bechgyn yn gadael yr ysgol y peth cyntaf yn eu hanes fyddai ymuno â'r dosbarth, ac adgyfnerthion ar gyfer y dyfodol yn cael eu magu a'u meithrin, Yr oedd noson cyfarfod y dosbarth yn un arbennig yn yr ardal, ac ni feiddiai neb ymyrryd â chysegredigrwydd yr oriau hynny, na'r noson honno