Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Chwe Drama Fer Michael (Miles Malleson) Y Brawd Blaidd (Laurence Housman) Doldir Circonnel (Gordoh Bottomley) Pobun (o'r Saesneg Everyman) Y Crogwr Newydd (Laurence Housman) Y Ddedfryd (Florence Howell). Trosiadau gan Leslie Harries a Jack Hughes. Gwasg Llandysul, 4/6. Gwerth y Byd, comedi mewn tair act, gan Emrys R. Jones. Llyfrau Pawb. Gwasg Gee, 1/3. Dyma, yn gyntaf, lyfr o gyfieithiadau o deip arbennig, a'i safon lenyddol yn uchel. Gellir yn rhwydd ei gymeradwyo i GrWp, dyweder, wedi ei ffurfio i ddarllen ac actio dramâu, ond prin y byddent yn addas neu gymwys, efallai, i gwmni ieuanc yn mentro perfformio am y tro cyntaf. Anodd credu y byddai iddynt gael derbyniad a'u gwerthfawrogi gan dyrfa gymysg, gan nad oes nemor ddim wedi ei wneud i addysgu cynulleidfaoedd gwerinol i wir werthfawrogi dramâu o safon fel y rhain. Gwyddys yn aml fod nid yn unig actorion, ond gwrandawyr hefyd, heb sylweddoli eto fod actio a Uwyfannu drama yn gel- fyddyd, ac yn gelfyddyd gain iawn. Felly, gwych o beth a fyddai i gwmnïau profiadol gynnig actio rhai o'r dramâu hyn. Dyma gyfle i ddosbarth, grwp, neu gymdeithas ddrama, i dorri tir newydd gydag un ohonynt, ei dysgu'n drwyadl, a rhoddi perfformiad ohoni i gynulleidfa fechan o garwyr neu gefnog- wyr y ddrama. Wedi'r perfformiad, cael trafodaeth a beirniadaeth ar bob agwedd ar y cyflwyniad. Wedi'r trafod a'r beirniadu, perfformiad arall, seiliedig ar ffrwyth y drafodaeth. Rhaid ymroi o ddifrif yn y cyfeiriad yma er magu chwaeth a gwerthfawrogiad o'r gelfyddyd. Ymhellach, gan fod cysyllt- iad agos rhwng miwsig a'r ddrama, dylid defnyddio'r elfen honno yn helaethach. Rhywle ar y llinellau hyn y gallwn roddi bywyd, ystyr a lliw i'r mudiad drama. Nid diddori yn unig ydyw pwrpas y ddrama, ond y mae Ue i ofni mai dyna a ddigwydd yn aml. Codir Cwmni er mwyn gwneud elw i ryw achos neu'i gilydd, ac yn gwbl ddiystyr ein bod yn delio ag un o'r celfyddydau aruchel. Y mae difaterwch o'r fath yn loes. Heddiw, ceir digon o lenyddiaeth a chyfar- wyddyd, ac felly nid oes esgus gan yr un cwmni, pa mor ddinod ) bynnag y'i teimlo ei hun, i gyrraedd safon weddol uchel. Soniwn lawer nad oes ym meddiant ein cenedl ddrama fawr. Ni chawn yr un byth nes codi chwaeth y werin yna, pan alwo hi amdani, fe'i cawn, ond nid cynt. Y mae'n bosibl i gwmni gyda'r math yma o ddramâu wneud cyfraniad pwysig at ddysgu i'r werin werthfawrogi dramâu o safon uchel, a chynorthwyo i fagu chwaeth, a gwrthweithio dylanwad cryf y Sinema ar feddwl a bryd yr ifainc. Drama i'w hactio gan dri o feibion a phedair o ferched ydyw Gwerth y Byd. Comedi at iws gwlad," yn fwyaf arbennig, medd yr awdur. Gellir yn hawdd ei chynhyrchu mewn neuadd fechan, neu mewn un fawr. Ceir sgwrs gan yr awdur ar gynhyrchu, yn ymwneud â'r symudiadau a'r iaith, ac un peth pwysig arall, sef, rhestr o angenrheidiau'r actorion ar gyfer pob act. Gyda sgwrs fel hon i'w gyfarwyddo, nid rhaid i'r un cwmni ofni'r gwaith, hyd yn oed gwmni ieuanc sydd yn dechrau. Fe ddylai'r gomedi ddiddorol hon gael derbyniad calonnog. Huw P. GRUFFYDD