Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae gan Mr. Hughes atgofion amdanynt i gyd. Cofia am gynhebrwng y Deon Edwards, am agor Coleg y Gogledd, ac am frwdfrydedd Etholiad 1892, pan gerddai'r dyrfa drwy Fangor dan ganu- And Lloyd George will win the day, Vote for the freedom of Cambria. Y mae'r bennod ddiddorol yn rhy gwta o lawer. Dylid erfyn ar Mr. Hughes ysgrifennu ei atgofion yn llawn am y blynyddoedd tyngedfennol hynny, pan gredai llaweroedd yng Nghymru eu bod yn cerdded tua'r wawr. Yn dilyn, fe geir dwy bennod ar Lundain, lle trigodd Mr. Hughes am bum mlynedd a deugain, a phennod arall ar yr Eisteddfodau y bu a wnelai ef â hwy. Mawr yw fy hiraeth am Lundain," ebr ef, Llundain a ddiflannodd bellach. Y mae'r enwau'n lleng yma eto, enwau personau a lleoedd, a chy- ffyrdda llaw'r awdur yn dyner-hiraethus â hwy oU. Diwedda'r gyfrol gyda phortreadau o dri alltud," sef ysgolfeistr, llyfrwerthwr, a chyfrifydd, a naw tudalen i gloi ar Bobl." Dyna gyweirnod y llyfryn hwn. Cymdeithaswr mawr yw Mr. Hughes pobl yw ei ddiddordeb ef. Ni ellir adolygu stori ddetectif fel yr adolygir llyfrau eraill. Os trafodir y stori, fe'i difethir i'r darllenydd. Morgan Humphreys yw'r gorau o awduron nofelau detectif Cymraeg ei unig fai yw bod ei lyfrau'n rhy anaml. Yn Ceulany Llyn Du, cyfarfyddwn eto â'n hen gyfaill John Aubrey, arwr Dirgelwch Gallt y Ffrwd. Ceir yma'r holl briodoleddau a ddisgwylir mewn stori dde- tectif effeithiol, dirgelwch, cnafeidd-dra, arswyd, ias disgwyl am wybod. Byddai'r stori ar ei mantais petai'n hwy. Y mae ynddi ddeunydd thriller o hyd llawn. A. O. H. JARMAN Cymry Enwog, 2/6. Yr Ail Epistol at y Corinthiaid, 1/ Gwasg Prifysgol Cymru. Nid oes yr un Geiriadur Bywgraffyddol Cymreig da ar gael eto y mae'r rhai a gyhoeddwyd yn y ganrif o'r blaen yn bur amherffaith erbyn hyn. Ond dyma gyfrol fechan hylaw o hanes pedwar ugain o Gymry Enwog, a gyhoeddwyd gan Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg a Gwasg y Brifysgol-brechdan flasus i aros pryd. Rhaid canmol y dewisiad yn fawr iawn. Digon hawdd fyddai i undyn anghytuno ag ef yn rhywle neu'i gilydd, ond y rhyfeddod ydyw ei fod yn dyfod mor agos at ddewisiad pawb. Y mae'r bywgraffiadau yn gryno ac yn gyflawn, ac yn anodd gwella arnynt mewn cyn lleied o le. Llyfr ydyw hwn a ddylai fod ar silff lyfrau pob aelod o'n dosbarthiadau. Ag ystyried bod cymaint o oleuni newydd wedi ei gael ar y Beibl, ac ar ei iaith, yn yr oes hon, yr oedd yn hen bryd cael cyfieithiad newydd ohono i'r Gymraeg, a bu Adran Ddiwinyddol Urdd Graddedigion Cymru ers blynydd-