Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymrur Oesau Canol Gan ROBERT RICHARDS, M.A. Un o lyfrau gorau'r ganrif hon. Nid oes agwedd ar fywyd y cyfnod nad yw Mr. Richards yn ei thrafod. Rhwymiad hardd, print eglur, 480 tud., tros gant o luniau. 17/6. Y Ddinasyddiaeth Faw Gan DAVID THOMAS, M.A. Gwelir yma sut y mae'r deddfau rhyngwladol yn gweithio, a chymaint yw dibyniaeth y naill wlad ar y llall. Rhwymiad da, 200 tud., deg o luniau. 4/ GAN LYFRWERTHWYR YM MHOBMAN, NEU GAN HUGHES A'I FAB, 16 WESTGATE STREET, CAERDYDD. Llyfr Newydd Gan Swyddog Addysg Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Aduli Education for Democracy Gan HAROLD SHEARMAN PRIS 3/6. Gellir ei gael o Swyddfa'r W.E.A. ym Mangor neu Gaerdydd. GWOBR GOFFA HEDD WYN Cynigir bob blwyddyn, gan Bwyllgor Cronfa Goffa Hedd Wyn, wobr o ddeg punt, neu fwy, am Draethawd Cymraeg ar ryw bwnc cymeradwy ynglŷn â'r Iaith Gymraeg, Llên Gymraeg, neu Hanes Cymru. Rhaid i'r pwnc gael ei gymeradwyo gan Dr. Ifor Williams, a Dr. R. T. Jenkins, cyn ysgrifennu arno. Cynigir y Wobr hon i fyfyrwyr Coleg y Brifysgol, Bangor, ac i aelodau'rDosbarthiadau Tu Allan a gynhelir gan Gyd-Bwyllgor y Coleg ynglŷn â'r Dosbarthiadau hyn (Joint Tutorial Classes Çommittee). Fe ellir estyn y cynnig i aelodau'r Dosbarthiadau a gynhelir gan y W.E.A., os bydd y Cyd-Bwyllgor yn cymeradwyo hynny. Y mae'r cynnig yn agored i bersonau a fu'n aelodau ryw- bryd yn ystod y tair blynedd diweddar. Llyfrau gwerth o leiaf ddwy bunt fydd rhan o'r wobr, a'r gweddiil yn arian. Fe argreffir ar y llyfrau Arfbais y Coleg, a'r geiriau, HEDD WYN MEMORIAL PRIZE" Rhaid anfon y traethawd i Gofrestrydd y Coleg erbyn Medi 20. Ymholwch am wybodaeth ar y mater hwn yn Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor.