Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CYF. I GAEAF 1945 Rhif 4 NODIADAU'R GOLYGYDD Mi dreuliais wythnos hapus iawn ym mis Awst yn mwynhau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhos Llannerch Rugog. Yr oedd yn dda gennyf fynd i'r Rhos unwaith eto, a phrofi o'r diwylliant Cymraeg cryf sydd yno, a theimlo'r brwdfrydedd a'r asbri a oedd tu cefn i'w hymdrechion dros Iwyddiant yr Eisteddfod. Mynnodd pobl y Rhos wneuthur y cwbl o'r gwaith eu hunain; hyd y gwelais i, ni chafodd neb arall roddi ei fys yn y brywes, na gwasanaethu ar bwyllgor, na dim. Yr oedd y pentref yn nyth o weithgarwch yn ystod y flwyddyn, yn drefnyddion, ysgrifenyddion, pwyllgorwyr, cerddorion, llenorion, dawnsyddion, athrawon ysgol, gwesty- esau, peintwyr tai, seiri pebyll, a phob math o grefftwyr. Clywais unwaith eto yn ystod yr wythnos alw yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr hen enw ffôl, "Prifysgol y Werin." Beth bynnag a ddichon yr Eisteddfod Genedlaethol fod-ac y mae'n gryn lawer o bethau-nid ydyw na Phrifysgol nac un math o ysgol. Ond arweiniodd yr enw hwn fi i fyfyrio uwch ei ben, a cheisio meddwl pa beth oedd lIe'r Eisteddfod yng nghyfundrefn addysg Cymru, neu tu allan i gyfundrefnau, a pha beth a ellid ei wneud ohoni. Ni chefais ryw lawer o weledigaeth, ond mi roddais gychwyn i'm meddwl i drafaelio i nifer o gyfeiriadau. Bydd Arholiadau'r Orsedd yn arwain meibion a merched trwy'r wlad i astudio llên a hanes Cymru, ac efallai bod rhai dosbarthiadau yn cael eu cynnal i'w paratoi ar eu cyfer. Byddai Eifionydd yn ei ddydd yn arfer hyfforddi nifer o'i ddisgyblion yng Nghaernarfon a'r cylch ar gyfer Arhol- iadau'r Orsedd. Dydd y Gwobrwyo ydyw diwrnod yr Eisteddfod, debyg iawn, ac nid Prifysgol. Y mae'r Orsedd ei hun wedi ei graenuso gryn dipyn yn y blynyddoedd diweddar yma­diolch i Gynan yn bennaf am hynny, y mae'n debyg-ac y mae pasiantri'r Coroni a'r Cadeirio yn gelfyddydwaith teg. Seremoni brydferth hefyd oedd cyflwyno 'r aberth-ged i 'r Archdderwydd yn y Rhos; yr oedd y ddawns yn yr awyr agored yn ysgol i ddysgu inni sut i weled harddwch symudiadau gosgeiddig, ac yn enwedig symudiadau hapus plant. Faint o ysgol ydyw'r Eisteddfod i'r ymgeiswyr a'r gwrandawyr? Ar wahân i'r addysg a dderbyniant wrth eu paratoi eu hunain ar gyfer y