Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARY SILYN ROBERTS GAN R. T. JENKINS Nid doeth yw byw'n agos i Olygydd, fel y gallaf dystio wedi chwarter canrif o fyw ar drothwy Golygyddion. A'r Sadwrn diwaethaf, a mintiau'n hanner cysgu o flaen y tân, dyma Olygydd LLEUFER ataf eisiau rhyw bwt o deyrnged i Mrs. Silyn Roberts ar derfyn ei chyfnod maith o wasanaeth swyddogol i Addysg Pobl mewn Oed. Ceisiais am ychydig droi'r ergyd i'r naill du. "Pam/i? dyna A. sydd wedi cydweithio yn yr un maes â Mrs. Roberts am ddarn mawr o oes "O, mae'r sciatica ar A. druan. Dyma'r tro cyntaf imi ddychmyga mai â bysedd ei droed y bydd fy hen gyfaill diddan A. 'nysgrifennu mor dda ­rhaid i minnau roi prawf ar y dull hwn, yna efallai y dof yn gystal sgrifennwr ag A. Ond cynigiais enwau B. ac C. i 'r Golygydd. Na, 'roeddynt hwythau wedi prynu pâr o ychen, neu briodi gwraig, neu rywbeth; o grib- inio Cymru gyfan, gellid meddwl na allai'r Golygydd gor-gwrtais gael hyd i neb ond myfi. Eithr ei ymresymiad gwreiddiolaf oedd: "Wel, 'rydech chi wedi ffraeo digon â Mrs. Roberts ar hyd y blynyddoedd." 'Doedd dim modd gwrthdroi'r cymhelliad hwn; fy nyletswydd amlwg oedd cymodi â'r foneddiges hoffus hon, ac yna offrwm fy rhodd fechan ar ei hallor. Ond i ddechrau gyda'r "ffrae" 'ma. Testun y ffrae-yr unig ffrae a fu rhyngom erioed-yw enw'r mudiad clodfawr y mae Mrs. Roberts wedi ei gynrychioli mor selog yn ein plith. Enw anhoff yw hwnnw gennyf. I mi, y mae ei theori'n gam. Syniad cymdeithasol anghymreig ac anwerinol sydd oddi tano; syniad o Addysg fel cardod, syniad bod eisiau math neilltuol (a chyfyngedig) o Addysg i "weithwyr" fel dosbarth, gyda'r awgrym mai'r sawl sy'n gweithio â'i ddwylo yw'r unig weithiwr. A hyn oll er gwaetha'r ffaith mai gweinidogion ac athrawon.a bancwyr a chyfreithwyr a siopwyr oedd cyfartaledd helaeth o bob un o'r ugeiniau o Ddosbarthiadau W. E. A. a welais i, a bod pynciau 'r addysg yn hollol eang a di-alwedigaeth. Y syniad hanfodol, ì mi, yw'r syniad a gyhoeddwyd bellach gan Syr Richard Livingstone (er enghraifft), sef anhepgoredd Addysg i bobl o bob oed ac o bob cyflwr--gweithwyr o bob math; a bod Addysg mewn Oed. dan yr enw hwnnw, yn hawl (nid yn elusen) y dylid ei mynnu ar law'r /Weimyddiaeth Addysg yn rhinwedd ei swydd. Wel, rhyw faterion felly fyddai'r "ffrae" rhwng Mrs. Roberts a minnau. Megis ymhob ffrae, yr oeddem ein dau'n iawn. Myfi'n edrych ymlaen-yn bur bell, ond odid-at adeg pan na bydd eisiau "W.E. A. yn union fel y mae'r Beibl yn dweud na bydd teml yn y Nefoedd. A hithau, yn llawer mwy ymarferol, a'i bryd ar anghenion y Gymru sydd ohoni'n awr, y wlad a oedd megis dan ei thrwyn, yn fy nghyhuddo'n hanner-direidus o fod yn "elyn i'r W. E. A." Fe ddiweddai'r ffrae bob tro gyda gorchymyn (a chydsyniad ufudd) i "fynd i gadw Ysgol Undydd dros y W.E.A. yn Llanbedr-tu-hwnt." Byddai'n anghwrtais ynof ddweud wrthych pa sawl blwyddyn sydd wedi mynd heibio er pan welais Mrs. Silyn Roberts gyntaf. Ond waeth heb wadu inni'n dau fod yn y Coleg ynghyd! Rhyw "ynghyd" lle oedd hwnnw; nid oedd fawr o "ynghyd-rwydd" cymdeithasol ynddo. Sut y gellid hynny, rhwng Mary Parry, brenhines y Coleg yn ei dydd, a rhyw