Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMLADD ANGHYFLOGAETH GAN R. O. Roperts I Nid oes y fath beth â diweith-dra, canys y mae digon o waith yn aros i bawb i 'w wneuthur. Eithr bu anghyflogaeth yn ffaith ddifrifol yn ein hanes diweddar. Methai pobl, er ceisio'n deg, â chael gwaith am gyflog, yn enwedig o 1930 hyd 1933, ac ofnwn am y dyfodol. Beth am ardaloedd y chwareli ? am ardaloedd diwydiannol Dinbych a Fflint? am gymoedd De Cymru? am ardaloedd amaethyddol Cymru? Beth am ddyfodol ein brodyr a'n chwiorydd ledled y byd, a bywoliaeth y plant ? Yny tri misoddechrau Ebrill hyd ddechrau Gorffennaf, 1945, bu agos i naw mil o gynnydd yn rhif y rhai a oedd allan o waith yng Nghymru; yr oedd hyn yn fwy na hanner cymaint â'r cynnydd yn Lloegr a'r Alban gyda'i gilydd. Pair y ffaith hon i ddyn ail-feddwl am achosion anghyflogaeth yn gyfiredinol, ac am bwys arbennig anghyflogaeth yng Nghymru. Sut y daw anghyflogaeth i fod? Beth yw'r galluoedd tu ôl i lanw a thrai mewn diwydiant, amaethyddiaeth, a masnach? (Ac o sôn am lanw a thrai, sylwer y credodd rhywrai, dalm o amser yn ôl, mai dylanwad ysmotiau ar yr haul oedd sigliadau i fyny ac i lawr ym mhrysurdeb cymdeithas wrth geisio'i bara a chaws, ei bir a'i chig). Fe geisir rhoddi yma, ynsyml syml, o'r cof gan mwyaf, gyfran o'r ateb modern cydnabydd- edig i'r cwestiwn. Y mae llawer o wreiddiau anghyflogaeth mewn cyfalaf a buddsoddi; symudiadau'r rhain a fu ac a fydd yn achosi gan amlaf ysigl ôl a blaen rhwng ffyniant a dirwasgiad. Dyma yw cyfalaf :-nwyddau a ddefnyddir i greu nwyddau a gwasanaethau eraill. Yn yr ystyr hwn, y mae nwyddau defnydd yn gyfalaf, sef y bwyd a'r dillad a'r pethau amryfal a ddefnyddir yn feunyddiol gan ddynion tra creant nwyddau eraill mewn ffatri a chae a gweithdy; ond fel rheol, ac i bwrpas yr ysgrif hon hefyd, yr hyn a olygir wrth gyfalaf ydyw nwyddau cynhyrchu, fel ffatrïoedd a pheiriannau ac offerynnau. (Pan sonnir am arian fël cyfalaf,'moddion i brynu neu i greu cyfalaf a olygir). Yn ôl Cyfrifiad (Çensus) 1931, rhyw 12 y cant o weithwyr.Prydain a oedd yn gweithio yn y diwydiannau nwyddau defnydd; a chymesur tebyg sydd mewn gwledydd diwydiannol cyffelyb. Ond y mae 'r diwydiannau defnydd yn gymharol anwadal eu gweithgarwch; ac am hynny, y maent yn holl-bwysig eu dylànwad ar y siglen gynhyrchu. Fel hyn: II Dechreuer gyda chyfnod o anghyflogaeth. Bwrier bod rhywbeth- mwy o brynu nwyddau defnydd, neu bolisi 'r Llywodraeth ya creu gwaith cyhoeddus o'r newydd neu 'n peri cwymp mewn llogau, neu ddarganfyddiad gwyddonol-yn peri i ymgymerydd (y mentrwr, yr entrepreneur). fuddsoddi cynilion mewn mentr newydd. A dyna yw cynilion, y rhannau o'r incwm cenedlaethol nas gwerrir ar bethau i'w treulio a'u mwynhau ar y pryd. Defnyddir y cynilion (sef y buddsoddiad) i roddi pobl ar waith; a gwyddys nad y bobl ar y dasg newydd yn unig a elwa, ond hefyd y bobl a gaiff waith newydd i greu'r pethau a brynir yn chwaneg ganddynt hwy.