Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CANMLWYDDIANT "Y TRAETHODYDD" GAN E. Morgan HUMPHREYS Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Y Traethodydd ym mis Ionawr, 1845. Bu cylchgronau Cymraeg eraill o'i flaen, ac y mae rhai ohonynt, megis Yr Eurgrawn, Yr Haul, a'r Drysorfa, yn fyw heddiw. Eithr saif Y Traethodydd ar rai ystyron ar ei ben ei hun yn ei gynllun ac yn ei Ie yn hanes cylchgronau Cymraeg. Cyhoeddiad chwarterol y bwriadwyd iddo fod o'r cychwyn, ar lun a delw cyhoeddiadau Seisnig ac Ysgotaidd fel The Quarterly Review a'r Edirìburgh Review, a'r gwahaniaeth hanfodol rhyngddo ef a chyhoeddiad fel Y Gwladgarwr, dyweder, oedd ei fod yn cymryd yn ganiataol fod ei ddarllenwyr eisoes yn ddiwylliedig. Teimlwch wrth ddarllen rhagflaen- oriaid Y Traethodydd ar y maes mai dysgu'r Cymry oedd eu hamcan, a'u bod yn teimlo o hyd eu bod yn siarad â gwerinwyr syml heb lawer o addysg, ac yn ceisio gwneud pethau yn eglur ac yn hawdd iddynt hwy eu hamgyffred. Nid oes dim o'r ymostyngiad hwnnw yn Y Traethodydd o'r cychwyn, a hynny, y mae'n debyg, am nad oedd yn ei sylfaenydd a'i olygydd cyntaf, Lewis Edwards. Bu Lewis Edwards­Dr. Edwards ar lafar gwlad am fwy na chenhedlaeth yng Nghymru, ond nid oedd yn ddoctor yn 1845-ym Mhrifysgol Edinburgh, a chymerodd ei radd yno. Yr oedd Methodistiaeth Galfinaidd erbyn hynny yn ddigon hen i anghofio bod rhai o wvr amlycaf y blynyddoedd cyntaf, ac i lawr hyd amser Charles o'r Bala a Simon Llwyd. yn ysgolheigion ac yn raddedigion, a thyfodd syniad nad oedd ar bregethwr angen dysg, na hyd yn oed addysg weddol. Brwydrodd Lewis Edwards ac ychydig o rai eraill yn erbyn y cyfeiliornad hwnnw o'r cychwyn, a rhan o'r frwydr honno oedd sefydliad coleg y Methodistiaid yn y Bala yn 1837. Yr hyn sydd yn nodedig braidd ydyw bod Lewis Edwards, a fagwyd mewn ardal wledig yng Ngheredigion, ac o dan yr un amgylchiadau yn union â'r rhelyw o werin Ymneilltuol Cymru yn ei ddydd, nid yn unig wedi mynnu mynd i Edinburgh i gymryd ei radd, ond rywfodd neu'i gilydd wedi magu hyder a sicrwydd ynddo ei hun nad oedd ond mewn ychydig iawn o'i frodyr ar y pryd. Yr oedd y sicrwydd hwnnw yn rhan hanfodol o'i gymeriad, y mae'n amlwg, a phan ddaeth i sefydlu'r Traethodydd, gwnaeth hynny gan deimlo ei fod, ac y dylai ei gyhoeddiad fod, ar yr un gwastad yn union â chyhoeddiadau tebyg yn Lloegr ac yn yr Alban. Mwy na hynny. Nid yn unig syniodd yn hyderus ac yn deg am ei alluoedd a'i wybodaeth ei hun, ond gwnaeth hynny am alluoedd ei ddar- llenwyr hefyd. Nid oedd "ysgrifennu i lawr" at neb yn Y Traethodydd; cymerodd ei olygydd yn ganiataol fod darllenwyr Cymraeg yn bobl ddeallus ac yn bobl yn medru gwerthfawrogi'r gorau y gallai ef a'i gydweithwyr ei roddi iddynt. Yng nghyfrol gyntaf Y Traethodydd ceir ysgrifau y gellir eu darllen a'u gwerthfawrogi heddiw, ar bynciau fel Athroniaeth Bacon, Mudiad Rhydychen-cofir mai yn 1845 y gadawodd Newman Eglwys Loegr ac ymuno ag Eglwys Rufain-cofiant newydd Dr. Arnold, y dadleuon diwinyddol yn yr Alban, a sefydliad yr Eglwys Rydd yn y wlad honno, ac adolygiad ar Horae Paulinae Paley. Heblaw hynny, rhoddwyd ysgrifau ar Ddewi Wyn, John Elias, a phynciau Cymraeg eraill, llawn gwell na dim o'r fath a gafwyd o'r blaen. Mewn cyfrolau eraill ymdrinir yn feistrolgar