Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWEDD WIL HARRIS Gan D. TECWYN LLOYD (Cyfaddasiad) Digwyddodd marwolaeth Wil Harris yn nhloty'r plwy ar yr 21ain o Fawrth; clefyd y galon. Saith a thrigain oedd ei oed. Buasai'n trigiannu yn y tloty am lawer blwyddyn; i hynny o'r gen- hedlaeth ddeg ar hugain oed a wyddai amdano ddiwrnod ei gladdu, ffigur sefydlog yn y tloty oedd Wil Harris, a dim arall. A rhyfedd cyn lleied o'r genhedlaeth honno a'i cofiai; nid bod disgwyl mawr i neb wneud, canys unwaith y goroesa dyn ei gyfoeswyr ei hunan, llwydaidd yw'r argraff bersonol a wna ar genhedlaeth iau, canys y mae'n perthyn i oes arall à dirgelion gwahanol iddi. Nid mwy na rhyw bedwar neu bump efallai a arferai dynnu sgwrs ag ef pan bwysai 'n segur ar lintel un o ffenestri'r dref; i'r pedwar neu bump hynny nid oedd Wil chwaith yn ddim namyn tlotyn a bwysai ar lintelydd y ffenestri a'r siopau ar ddydd ffair a marchnad. Anffawd arall ydoedd y ffaith mai gŵr distaw, braidd yn filain a dreng ei osodiad, ydoedd Wil. un na fynnai neu na faliai ddweud dim o'i hanes èi hun wrth neb. Felly, o'r genhedlaeth ddeg ar hugain oed, ni chofiai neb mohono onid fel tlotvn. ac nid adwaenai neb mohono ond fel gwagsymerwr toredig. Nid oedd Wil yn gerddor; ni chanodd gân, hyd y gwyddys, erioed yn gyhoeddus, ac am gyfran helaeth o'i fywyd bu'n rhy ddiarian i fynychu tafarn lle gallai. o bosibl, ganu neu areithio neu lacio i atgofusrwydd mewn brwysgedd. Nid oedd yn llenor chwaith, ac ni wyddys iddo erioed ysgrifennu gair ar bapur; croes a wnâi ar yr ychydig achlysuron hynny y bu raid iddo gadarnhau ei fodolaeth ar bapur i faith swyddogaeth cymdeithas. Ni allodd ddarllen na thrafod papur newydd na llyfr erioed, ac felly ofer ceisio chwilio am unrhyw goffâd iddo mewn argraff, neu ysgrifen o'i waith ei hunan. A chan ei fod o natur flin a dreng, nid oedd iddo nemor ddim cysylltiad â chymdeithas o'i gwmpas. Hen lanc ydoedd, meddai rhai. ond dywedai eraill hŷn fod ganddo wraig unwaith ond iddo ei gadael. Am y tlodion sydd gyda ni bob amser, nid oes unrhyw flas na hwyl ar stori glep, a buan y gosodwyd Wil yn dawel, a heb gywilydd blasus y rhai straegar, yng nghategori'r dynion hynny nad yw neb yn malio pa un a fu ganddynt wragedd ai peidio. Prun bynnag, pan ddaeth i mewn i'r tloty, gŵr dibriod a di-blant ydoedd, ac wrth gwrs, gwelodd y tloty'n dda ei rwymo'n gadarn o hynny ymlaen yn y cyflwr hwnnw. Os bu ganddo wraig rywdro, ni wnaeth hi unrhyw gais i ddilyn ei rawd, na chwilio amdano. Trwy'r gaeaf, cadwai'n glos rhwng muriau'r tloty, fel gwyliwr yn gwarchod cloddiau'r gwersyll gaeafu; gyda dechrau'r haf yr atgyfodid Ẅil i lintelydd y ffenestri. Pan fu farw, ar y diwrnod oer a thywyll uchod o Fawrth-ac fe ddylai bod tymor o'r enw Mawrth yn y flwyddyn­yr oedd pedwar o'i gyfoedion yn y claddu, yr^inig bedwar a wyddai amdano o'i ieuenctid. Sioffar gŵr y plas oedd un, cipar afon oedd yr ail, cynorthwyydd yn y felin oedd y trydydd, a thyddynnwr oedd yr olaf. Yr oedd y pedwar hyn yn cofto-Wil Harris.