Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

felly mewn tref arall. Ymhlith y dogfennau hynny yr oedd y cwbl o 'wybodaeth swyddogol a ymgasglodd ynghylch person un Wil Harris; gwybodaeth y llywodraeth wladol amdano, ynghydag ychydig lythyrau a chofnodion a sgrifennwyd amdano o dro i dro. Ymhlith cannoedd o ddog- fennau tebyg am eraill, traddodwyd hwy i ofal swyddfa mewn tref fwy. Ond yn y cyfamser, newidiodd cyflwr llawer o bethau. Yr oedd yr holl fyd bron mewn rhyfel â'i gilydd, ac awyrennau'r naill wlad yn croesi ffin y llall i chwalu a llosgi adeiladau a thai. Un noson, daeth llu o awyrennau uwchben y dref lle cedwid dogfennau hanes swyddogol Wil Harris, ac ynghwrs y bomio am y noson honno chwalwyd a llwyr ddin- istriwyd y swyddfa a'r papurau a oedd ynddi. Bellach, nid arhosai dim ar ôl i dystio am fodolaeth Wil. Llosgwyd pob papur a dystiai amdano; claddwyd ei unig gyfeedion.' Ni pherthynai dim offer iddo, na chyn na bwyall na gefel; ar furiau'r tloty nid oedd na llun nac arysgrif o'i waith. Pwy oedd ei deulu, ni wyddent eu hunain, os oedd teulu iddo. Ac ym mynwent y plwy, llyfnhawyd crwb ei fedd yn raddol gan dreigl diduedd y blynyddoedd, a chan ddrysi llawer tyfiantach. A llifodd holl fywyd y byd ymlaen yn ei oferedd a'i rwysg a'i ogoniant a'i arswyd a'i ehangder. Bum mlynedd ar hugain go union ar ôl ei farw, fe ddaeth diwedd Wil Harris. Nid yw mwyach. Yr ydym yn rhy barod i goelio, pan fo pobl- yn defnyddio'r un ymadroddion, fod hynny'n golygu eu bod yn meddwl yr un meddyliau, ac vn synied am vr un pethau.-The Meaning of Meanmg (C. K. Ogden ac I. A. Richards)'. Nid rhy^beth sydd gennym eisioes i'w amddiffyn ydyw gwerin- lywodraeth; rhywbeth sydd yn aros eto i'w ennill ydvw.—Leonard Barnes Pan godaf i. nid o blith v bobl v codaf ond gyda hwynt .-Eugene V. Debs. Er pan gyhoeddwyd rhifyn diwaethaf LLEUFER, fe newidiwyd Ysgrif- ennydd Parhaus Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg; ymddiswyddodd Syr Wynn WHELDON, a phenodwyd BEN Bowen THOMAS i'w Ie. Y mae'r ddau'n gyfeillion cywir i Addysg Pobl mewn Oed ers llawer blwyddyn. Cafodd Syr Wynn Wheldon brofiad o'r mudiad hwn pan oedd yn Gofrestrydd Coleg Bangor, ac yn Ysgrifennydd Cyd-Bwyllgor y Coleg ar y Dosbarthiadau Tu Allan. Bu'n aelod o Bwyllgor Gweithiol y W.E.A. yng Ngogledd Cymru nes mynd i'r Bwrdd Addysg yn 1933, ac wedi hynny bu 'n annerch nifer o gyfarfodydd drosti—Ysgolion Undydd, a'r cyffelyb. Bu Mr. Thomas ("B.B. ar lafar gwlad) yn Warden Coleg Harlech, ac wedi hynny'n Gyfarwyddwr Addysg Pobl mewn Oed o dan Goleg Aberystwyth. Yr oedd yn aelod o Gyngor y W.E.A. yng Ngogledd Cymru o'i chychwyniad yn 1925, ac ef a roes yr Anerchiad yn ei Chynhadledd Ben Blwyddyn yng Ngwrecsam eleni.