Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"LLEUFER" GAN Ifor Williams Yn lle fy mod i'n gorfod chwilio am destun llith, a methu â chael un- profiad diflas ond cynefin i mi-mae'r Golygydd yn garedig iawn wedi hwyluso fy ffordd trwy ofyn i mi am esboniad ar y gair lleufer. Rhyngoch chi a'ch gilydd, bellach; nid arnaf i mae'r bai am ddewis pwnc mor astrus. Hen air â hanes iddo yw lleufer, gair cyfansawdd o ddau air llai, sef lleu, a ber, a'r peth cyntaf i'w wneud yw chwilio am hen enghreifftiau ohono'n gyfan, ac o'i ddau ddarn ar wahân, ar hyd yr oesoedd y buont byw yn y Gymraeg. Yna, wedi olrhain eu taith yn ein hiaith ni, bydd yn rhaid chwilio am eu teulu a'u perthnasau yn yr ieithoedd agosaf at y Gymraeg, yr ieithoedd sy'n disgyn o'r un famiaith. Yr enghraifft hynaf a welais i o'r gair cyfan yw mewn llawysgrif yn Rhydychen, a ysgrifennwyd yn 820 gan ryw Gymro. Lladin yw corfí y gwaith, ond yma ac acw ceir geiriau o Hen Gymraeg: un ohonynt vw louber. Yn Llyfr Taliesin, llawysgrif o tua 1275, ceir cân sydd yn sicr o fod yn ganrifoedd hyn na'r copi hwn, lle mae'r bardd yn gweddïo am faddeuant gan Dduw: Yn deweint ym pylgeineu llewychawt. vy lleufereu. h.y. yng nghanol y nos, ac yn y plygain, llewyrcha fy lleuferau. Cyfeirir at yr arfer o weddïo yn yr eglwysi ar oriau gosodedig berfeddion nos, wrth olau canhwyllau. Dyna arfer lleufer am gannwyll neu lamp, rhyw fath o olau. Ac wele awgrym clir mai'r un lleu sydd yn go-leu, ac yn Ìleu-íer. Rhowch y terfyniad -ad ar ei ôl, a chewch y gair cyffredin lleuad; rhowch go- o flaen hwnnw, a chewch Y Goleuad. Canodd Cynddelw i'r Arglwydd Rys (a fu farw yn 1197) a dymuna iddo ar derfyn ei einioes gael croeso yn y nef "yn lle lleufer," h.y. yn y lle y mae goleuni, nid yn y tywyllwch eithaf. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, ceir Ancr (neu feudwy) Llanddewifrefi yn sôn am leufer ysbrydol: rhydd gyfieithiad i Gymraeg o ddechrau Efengyl Ioan, ac esboniad byr. Mi gredaf y deallwch ei eiriau ond i mi gael newid yr orgraff dipyn. "A'r bywyd hwnnw ysydd leufer i'r dynion. Ac nid lleufer i'r anifeiliaid, heb ddeall, heb synhwyrau ganddynt, namyn lleufer ysbrydol yw a oleuhaa eneidiau dynion. A 'r lleufer a lewycha ymhlith y pechaduriaid Canys pechod ysydd dywyllwch, a'r pechaduriaid tywyll ynt, a hynny achos eu pechod. A 'r tywyllwch nis amgyffredodd ef megis deillion yn eistedd yng ngoleuad yr haul heb ei weled." Sonia bardd o Sir Fôn am leufer haul, a dyry llenor arall hanes y cread o Lyfr Genesis. Yn lle Duw a ddywedodd. Bydded goleuni, a goleuni a fu. A Duw a welódd y goleuni, mai da oedd." dyma ei gyfieithiad ef, "Ac yna dywedyd a orug Duw, 'Bid leufer' eb ef. Ac ef a wnaethpwyd lleufer. Ac ef a welas Duw fod yn dda lleufer." Erbyn y bymthegfed ganrif mae lleufer yn tueddu fwyfwy i golli'r yn ei ganol; yn wir, ceír "lleuer gwawr" gan Iolo Goch yn y ganrif o'r