Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNLLUN TALEITHIOL LLYFRGELLOEDD CYMRU A MYNWY Gan William Williams Rhan o gynllun sy'n cynnwys Prydain Fawr i gyd yw Cynllun Taleithiol Llyfrgelloedd Cymru a Mynwy, ac ni ellir adrodd hanes y Cynllun heb roddi cipolwg ar y modd y datblygodd cyfundrefn llyfrgelloedd cyhoeddus ym Mhrydain Fawr. Hanes llyfrgelloedd cyhoeddus yn unig a geir yma. Ni wnaed ymgais eto i sgrifennu hanes llyfrgelloedd dyngarol a chrefyddol Cymru. Cyn 1849 nid oedd ym Mhrydain Fawr lyfrgelloedd cyhoeddus yn cael eu cynnal gan drcthi. Yn y flwyddyn honno cyhoeddwyd Adroddiad Pwyllgor Dewis- edig (Select Committee) ar y Llyfrgelloedd Cyhoeddus, ac yn fyr iawn dyma argymhellion y Pwyllgor: 1. Fod caniatâd i Gynghorau Trefi godi treth er mwyn sefydlu llyfr- gelloedd 2. Fod y Llywodraeth Ganolog i roi grantiau cynorthwyol ar gyfer hynny ar delerau manwl a phendant; 3. Fod dau fath o lyfrgelloedd yn cael eu sefydlu, sef: (a) Adneuol (deposit) ac ymchwil, (b) Darllen-cyffredin a chylchrediad. Canlyniad yr Adroddiad hwn oedd y ddeddf a basiwyd yn y flwyddyn 1850. Ni chariwyd allan awgrymiadau'r Pwyllgor, oherwydd ni chaniatâi'r ddeddf newydd i'r Llywodraeth Ganolog roddi grantiau tuag at gynnal llyfrgelloedd, ond dyma'r ddeddf a roddodd ganiatâd i Gynghorau Tref mewn trefi o ddeng mil neu ragor ò boblogaeth i sefydlu llyfrgelloedd, ac i godi treth heb fod yn fwy na dimai y bunt i'w cynnal. Diddymwyd y ddeddf hon yn 1855, a chafwyd deddf newydd yn gostwng lleiafswm y boblogaeth i bum mil, ac yn rhoi caniatâd i godi'r dreth i geiniog. Yn y flwyddyn 1866 newidiwyd y gyfraith unwaith eto. Y tro hwn, diddymwyd y rheol ynghylch poblogaeth yn gyfan gwbl, a rhoddwyd caniatâd i unrhyw ardal, plwyf, neu dref, i sefydlu llyfrgell. Araf iawn fu'r cynghorau yn manteisio ar y cyfle, hyd yn oed yng Nghymru-ond stori arall ydyw honno. Tua'r flwyddyn 1897 dechreuodd Andrew Carnegie gynnig grantiau i adeiladu llyfrgelloedd, ac o hynny ymlaen hyd 1905 bu cynnydd mawr yn eu nifer. Yna, hyd 1915, braidd yn drist yw'r hanes am lyfrgelloedd cyhoeddus Prydain Fawr. Yn y flwyddyn 1915 cyhoeddwyd gan y Carnegie United Hingdom Trust Adroddiad yr Athro W: G. S. Adams ar ddarpariaeth a pholisi ar gyfer llyfrgelloedd. Beth a achosodd y dirywiad yn y diddordeb mewn llyfrgelloedd yn y cyfnod rhwng 1905 a 1915? Y mae'n anodd dweud, ond deil rhai o'u haneswyr mai 'r ffaith yw na ellid, gyda 'r ewyllys gorau yn y byd, gynnal