Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o lyfrau a fu gynt yn segur yn awr wedi eu byddino ar gyfer gwasanaeth lle bynnag y bo angen amdanynt; yn ail, fod cyfle wedi ei roddi i lyfrgelloedd bychain ddefnyddio'u harian i brynu llyfrau y mae galw cyson amdanynt; ac yn olaf ac yn bennaf, y gall unrhyw ddarllenydd, Be bynnag y bo, gael unrhyw lyfr y mae arno wir angen amdano, ond iddo wneud cais trwy ei lyfrgell leol neu sirol. Nid dyna ddiwedd y stori. Y mae Cynllun Taleithiol Llyfrgelloedd Cymru a Mynwy wedi ei gysylltu'n agos â'r Llyfrgell Ganolog Genedlaethol yn Llundain, a thrwy'r cysylltiad hwnnw, â'r prif lyfrgelloedd o bob math yn Lloegr, yr Alban, Iwerddon, a'r Unol Daleithiau. Gellir dweud bod llenyddiaeth byd cyfan o fewn cyrraedd unrhyw Gymro. Cyn y rhyfel cafwyd cydweithrediad trwy'r Cynllun â llyfrgelloedd cyfandir Ewrop. Trwy'r cysylltiadau hyn cafwyd benthyg rhai llyfrau prin iawn i Gymry o'r Eidal, Ffrainc, yr Almaen, Llychlyn, a'r Unol Daleithiau. Ar y llaw a^all, anfonwyd o lyfrgelloedd Cymru lyfrau prin ar fenthyg i'r Cyfandir ac i'r Unol Daleithiau. Yr ydys yn gobeithio mai un o'r pethau cyntaf a ail-adeiledir ar ôl y rhyfel fydd y Cynllun cydwladol ymhlith llyfrgelloedd. I derfynu, dyma reol aur y Cynllun, sef y dylid gwneud cais am bob llyfr y bo'i angen ar ddarllenydd drwy ei lyfrgell leol neu sirol, ac nid i'r Llyfrgell Genedlaethol i ddechrau. Paham yr ymbil dwys, O wynt, A'r ocheneidio trwm, A pham yr oedi ar dy hynt Wrth ymdaith drwy y cwm ? Ai llatai anweledig wyd Ddihangodd dro o'r fynwent lwyd ? Ai o'r hen ywen ger y mur Y daethost ar dy rawd ? A fethwyd gwarchod plentyn cur Er pesgi ar ei gnawd ? A sugnwyd nwyd o'r distaw dir A droes yn drech na'r cangau ir? O! na bawn fyddar heno, wynt, I 'th laes angerddol gri; Ni ddeuai’n 61 y dyddiau gynt I darfu 'mreuddwyd i. Dos rhagot ar dy daith drwy'r cwm, A gad im gysgu, cysgu'n drwm. Y GWYNT Gan LIZZIE JONES