Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PA BETH rW DDARLLEN AR BYNCIAU'R DYDD GARTREF Gan J. ALUN Thomas Gair mawr y dyddiau hyn ydyw "Cynllun." Yn y ganrif o'r blaen. tybid gan lawer mai 'r ffordd orau i lywodraethu oedd i 'r llywodraeth adael i bethau gymryd eu cwrs, a pheidio ag ymyrryd â chwestiynau economaidd a chymdeithasol. Cyndyn fu'r wladwriaeth i baratoi addysg ar gyfer plant. cyndyn hefyd i leihau oriau gwaith mewn ffatrïoedd a mwynfeydd, canys credid bod "byd busnes" yn myned yn ei flaen wrth ei bwysau ei hun. Ond erbyn heddiw sylweddolir bod angen am drefn a threfnu. Felly, disgwylir i lywodraeth ofalu am addysg i bawb, a mawr ydyw'r gwyn yn erbyn cyfundrefn addysg sy'n gwrthod yr un breintiau i'r tlawd ag i'r cyfoethog. Disgwyliwn hefyd i'r wladwriaeth, drwy ddeddfu, amddiffyn y gweithiwr yn erbyn ei elyn mawr, anghyflogaeth. a sicrhau drwy'r un cyfrwng safon byw deilwng i'w deiliaid. Yn fyr, y duedd heddiw ydyw edrych ar y wladwriaeth fel penteulu sydd o dan ddyletswydd i ofalu amdanom ni ei blant. Ychydig flynyddoedd yn ôl ysgrifennodd J. M. Keynes-yr Arglwydd Keynes erbyn hyn­bamffled yn dwyn y teitl. The End of Laisses Faire ac yn y pamffied hwnnw ceir dadansoddiad o natur y chwyldro yn ein yniadau am y wladwriaeth. Buddiol fyddai i'r darllenydd roddi tipyn o sylw i'r llyfryn hwn. Camgymeriad fyddai credu mai rhywbeth newydd sbon yw'r syniad fod yn rhaid trefnu'r gyfundrefn gymdeithasol ac economaidd. Yn hytrach, y delfryd o anturiaeth rydd (free enterprise) sydd yn newydd. O safbwynt hanes. trefnu a ddaw'n gyntaf, ac anturiaeth rydd yn ail. Carwn alw sylw at lyfr sydd yn ymdrin yn y modd mwyaf diddorol â natur, ansawdd, a dirywiad yr hen gyfundrefn drefnu, ac â thwf y gyfundrefn newydd, ddi- drefn. Dyma enw y llyfr A Planned Economy or Free Enterprise, gan E. Lipson. gẁr sy'n adnabyddus fel hanesydd. Ceir cefndir hanes i bynciau'r dydd yn y llyfr hwn, ynghyd ag amlinelliad o gynllun yr awdur sut i ail-drefnu ar ôl y rhyfel; llyfr gwerth ei ddarllen a'i astudi.. Llyfr arall sy'n taflu llawer o oleuni ar y "cwestiwn cymdeithasol ydyw cyfrol G. D. H. Cole, The Condition of Britam. Fel y mae 'n wybyddus i aelodau'r W.E. A. gŵr sydd wedi sgrifennu llawer ar faterion politicaidd. economaidd, a chymdeithasol, ydyw Cole, ac yn y llyfr hwn ceir dadansoddiad penigamp o gyflwr Prydain cyn y rhyfel. Llwyddodd yr awdur, drwy gyffwrdd bron â phob agwedd ar fywyd cymdeithas, i dynnu darlun clir a chyflawn o natur prif bynciau'r dydd, a'r problemau dyrys a oedd ac sydd yn wynebu'r llywodraeth. Credaf y bydd darllen y ddau lyfr yma, sy'n amcanu at daflu rhyw gipdrem gyffredinol dros yr holl faes, yn foddion i roddi i'r darllenydd dipyn o "grap ar y llythrenne. Gair yn awr am astudiaethau manylach o gwestiynau arbennig. Teimlir parch mawr yn y wlad hon i'r Adroddiadau a wneir gan Bwyllgorau a Chomisiynau a benodir o bryd i bryd gan y llywodraeth er gwneud ymchwil i bynciau y mae eisiau goleuni arnynt, a chyngor sut i'w trin. I'r adroddiadau hyn y try'r hanesydd, a'r sawl a gymer ddiddordeb yn y