Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyfrifol am gyhoeddiadau 'r gymdeithas, Gyda llaw, fe ymddangosodd nifer o aqtudiaethau gwerthfawr eisoes Wele rai ohonynt: The British Coal Industry, yn trin problem cynhyrchu a dosbarthu glo; The British Social Services, sy'n olrhain twf y gwasanaethau cymdeithasol, ac yn awgrymu gwelliannau; 7 he Location of Inaustry, pregeth arall ar destun Adroddiad Barlow. Ysgrifennwyd llyfrau P.E.P. yn ofalus, a gellir dibynnu ar gywirdeb y ffeithiau a geir ynddynt. A pheidied y darllenydd ag anghofio'r papur dyddiol. Bydd hwn yn rhoddi cryn dipyn o sylw i gwestiynau cymdeithasol ac economaidd, ac er na ddylid dibynnu arno bob amser, y mae, 0 leiaf, yn ddefnyddiol fel cyfrwng i'n cadw mewn cyffyrddiad â phynciau "llosgawl" y dydd. Ceir ynddo hefyd, os yw'n werth ei brynu, adroddiad o'r areithiau a draddodir yn Nhy'r Cyffredin ar y pynciau hyn. Ni ddylid anghofio chwaith bapurau sydd yn adolygu llyfrau newydd, fel y Times Literary Supplement. Rhydd yr adolygiadau hyn grynodeb o gynnwys llyfrau, a barn ar eu gwerth. Y mae'r maes, felly, yn eang, ond ymgysurwn yn y ffaith fod digonedd o ddefnyddiau wrth law pwy bynnag a fynno astudio'r pynciau hyn. Y MAE MWY NAG UN I. IFOR EVANS (1) IFOR LESLIE EVANS, o Aberdâr, g. 1897. Prifathro Coleg y Brif- ysgol, Aberystwyth; awdur The Agrarian Revolution in Roumania, Native Policy in South Africa, etc. cyd-olygydd Cyfres y Werin, a chyfieithydd Y Cybydd (Molière). (2) B. IFOR EVANS, g. 1899. Cymro o Lundain, Prifathro newydd Coleg y Frenhines Fari, Prifysgol Llundain; awdur cyfrol ar Lenyddiaeth Saesneg yng Nghyfres Pelican, a llyfrau eraill ar Keats, William Morris, etc. (3) IFOR B. N. EVANS, g. 1913 yng Nghaerdydd. Ysgrifennodd Man of Power, a gyhoeddwyd wedyn yng Nghyfres Pelican o dan y teitl, Ruther- ford ofNelson.