Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HWÌANGERDD MAIR GAN J. T. JONES O Sbaeneg Lope de Vega (1562-1635) Angylion, pan fyddoch Drwy'r palmwydd yn hedfan, O! rhwystrwch eu cangau Rhag deffro fy maban! Pan chwytho 'r gaeafwynt Yn greulon a stormus, Mae'r palmwydd ym Methl'em Yn siglo'n gynhyrfus. O balmwydd! darfydded Eich terfysg anniddan; Boed dawel eich cangau Rhag deffro fy maban! Dros ofid y ddaear Bu'r mab bach yn wylo: Mae'n awr yn flinedig- Caed bellach orffwyso. Fe lithrodd, O balmwydd! I freichiau cwsg weithian; Boed dawel eich cangau Rhag deffro fy maban! Mae oerwynt y gaeaf O amgylch yn rhuo, A cheisiaf gysgodi Fy mhlentyn bach rhagddo. Angylion, pan fyddoch Drwy'r palmwydd yn hedfan, O! rhwystrwch eu cangau Rhag deffro fy maban!