Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ACHUB CYFLE GAN R. WALLIS Evans Cyfarfyddem weithiau yng nghantîn y dref; codai rhywun bwnc, ac yno y byddem wrthi yn trin, trafod, a sgwrsio. Ar dro, deuai pwnc o ddiddordeb arbennig inni, a theimlem mai braf o beth fyddau dal ati ryw noson eto, ond amrywiai ein horiau gwaith gymaint fel mai prin y deuai cyfle yn fuan i ail-ymaflyd. Yr oedd yn amlwg fod yn rhaid cael trefn ar bethau. Ein problem gyntaf oedd ceisio cael hyd i noson y gallai nifer gweddol dda ohonom ddyfod ynghyd. Wedi setlo hynny, galwyd cyfarfod i weld pa nifer a oedd o blaid ffurfio dosbarthiadau, a pha bynciau yr oedd ganddynt ddiddordeb ynddynt. Yr oedd y diddordeb yn sicr, a'r pynciau yn aml, ac wedi llawer o siarad, penderfynwyd trefnu dosbarthiadau mewn Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Cymraeg, Mathemateg, a chylchoedd trafod mewn Seicoleg, Gwyddor Gwleidyddiaeth, Economeg a Cherddoriaeth-penderfynu go fawr. Yr oedd llawer o anawsterau'n aros. Dyna gwestiwn oriau gwaith, er enghraifft; yr oedd cymaint o newid arnynt fel y collai pawb ohonom, .ar y gorau, un dosbarth o bob tri. Nid oedd dim i'w wneud ond ceisio adolygu tipyn ymhob gwers, er mwyn llenwi'r bwlch. Yna, dôi mater leave. Prin yr âi wythnos heibio heb fod rhywun i ifwrdd, ond dal ati a wnâi pawb, a cheisio ail-gydio wedi dychwelyd. Wedyn, yr oedd problem fawr y symud, a phroblem heb ei hail oedd hi. Diflannai unigolion a chatrodau dros nos, heb air o rybudd, ac ni chlywem air amdanynt nes iddynt ymsefydlu mewn cylch arall, a chael cyfle i sgrifennu atom. Yr oedd y goreuon a'r mwyaf eu diddordeb yn ein gadael yn rheolaidd. Rhyw dro, chwalwyd dosbarth cyfan, a bu raid ail-gychwyn pethau o'r newydd yn hollol. Weithiau, âi gwersylloedd cyfan o'r ardal, a gadael gwacter mawr yn ein plith, ond deuai rhywrai wedyn i gymryd eu lle. Ymaelodent â'r dosbarthiadau, ac adolygem unwaith eto, fel y caffent gyfle i ddyfod yn wastad â ni. Pwy yn y byd a gadwai ddosbarth yn nyddiau heddwch dan amodau felly? Ac eto, yn yr helynt i gyd, cadwodd y dosbarthiadau 'n fyw. Yn wyneb yr holl dreialon, pa werth a oedd i'n hymdrechion, a pha bethau a ddysgwyd ganddynt? Dechreuodd y dosbarthiadau'n dda, fel y gwna pob antur newydd; rhaid bod dau cant a mwy ar y rhestri ar y cychwyn. Amrywiai maint y dosbarthiadau gryn lawer. Ychydig a astudiai Fathemateg, er enghraifft ond yr oedd dros hanner cant â diddordeb mewn Seicoleg. Y rheswm am hynny, efallai, oedd bod gormod o fathemateg yng ngwaith beunyddiol y lluoedd arfog, a bod Seicoleg yn fwy o bwnc sgwrs ac ymdrafod, ac apeliai pynciau felly at bobl ieuainc. Yr oedd yma gyfle i ddatgan barn, a gweld a deall safbwynt a oedd yn hollol wrthgyferbyniol.