Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MUDIAD YN Y DE GAN DAVID E. EVANS II Daw adegau yn hanes pob mudiad pan ddylid aros a chymryd cyfrif, i weld a lwyddodd i gyrraedd yr amcanion a ddisgwyliai'r arloeswyr. Fe argraffwyd y gwirionedd hwn yn ddwfn ar fy meddwl wrth gyd-deithio â Dr. Albert Mansbridge o Gaerdydd i Lundain ryw flwyddyn yn ôl. Taith ddiddorol dros ben oedd honno, a sefydlydd y W.E.A. a llawer mudiad arall, yn sôn am flynyddoedd cynnar y W.E.A., yn enwedig yn Ne Cymru. Credai ef y dylasai Cymru o bob gwlad ragori ym myd Addysg Pobl mewn Oed, a rhoddi ei chyfran arbennig ei hun, yn lle efelychu'r Sais a'i gyfundrefn. Gofynnodd i mi a oeddwn o'r farn fod Cymru wedi llwyddo yn hyn o beth. Nid Dr. Mansbridge yn unig a ddisgwyliodd lawer oddi wrth Gymru ym myd Addysg Pobl mewn Oed. Disgwyliai 'r diweddar Arglwydd Haldanc hynny hefyd. Ef oedd Cadeirydd y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Addysg Prifysgol Cymru yn 1918, ac yn ei anerchiad i gyfarfod cyntaf Llys y Brifysgol (wedi ei ail-gorffori) rhoes sylw neilltuol i ddyletswydd y Brif- ysgol tuag at y werin. "Bydd y gweithwyr sydd yn cyfrannu tuag at y trethi cenedlaethol a lleol (meddai) yn gofyn beth ydyw eu safle hwy mewn perthynas â'r Brifysgol. Dyma ichwi sefydliad a gychwynnwyd er budd y bobl i gyd, ac eto y maent hwy wedi eu cau allan. Hwn yw gorchwyl newydd yr ugeinfed ganrif Cyflawnwyd ef gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr hyd eithaf ei nerth Arbraw amhrisiadwy ydyw hon, oherwydd fe ddysgodd inni eisoes y gellir gwneud y gwaith, a bod galw amdano. Dyna sydd arnom eisiau ei wneud ym Mhrifysgol Cymru. Os ydyw'r Brifysgol i haeddu'r gefnogaeth helaeth a dderbyniodd gan bobl Cymru, rhaid iddi fod yn sefydliad a fydd yn gweithio tu allan i'r muriau yn ogystal â thu mewn "Fe'ch galwyd chwi yng Nghymru at y dasg hon oblegid eich bod chwi, efallai, o holl bobloedd y Deyrnas Gyfunol y rhai cymhwysaf i'w gyflawni. Dyna oedd byrdwn araith arall o'r eiddo'r Arglwydd Haldane yn Abertawe y flwyddyn ganlynol, pan ddarlithiodd ar y pwnc, "Y Brifysgol a Democratiaeth Cymru." "Gobeithiwn weld yfory fudiad mawryr ydych chwi yng Nghymru yn gymhwysach i'w sylweddoli nag un rhan arall o'r Deyrnas Gyfunol. Y mae gennych y fath ddiddordeb mewn addysg-mewn goleuo eich gwerin, a chymaint 0 ddychymyg yn cyd-fynd ag ef, nes credu ohonof ei fod yn eich gallu roddi cymaint o rym ac egni yn eich Mudiad Addysg i 'r Bobl ag a'ch gwna yn esiampl i Brydain Fawr, ac efallai i'r hollfyd. Byddwch o ddifrif ynglýn â nodwedd genedlaethol eich Prifysgol, byddwch o ddifrif ynglyn