Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AM BERSONAU Trcfnydd newydd y W.E.A. yng Ngogledd Cymru Un o Flaenau Ffestiniog ydyw CADWALADR EDWARD Thomas, ac y mae 'n 46 mlwydd oed. Bu'n aelod o ddosbarthiadau'r W.E.A. am flynyddoedd, ac yn fyfyriwr yng Ngholeg Harlech, ac enillodd Ysgoloriaeth Cassel i fynd i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yr oedd yn aelod o Bwyllgor Gweithiol y W.E.A. yn v Gogledd 0 1928 hyd 1938, pryd y penodwyd ef yn Athro a Threfnydd dros Sir Fflìnt. Etholwyd ef i gynrychioli'r W.E.A. ar Bwyllgor Addysg y Sir honno. Penododd y W.E.A. yn y Gogledd, mewn cydweithrediad â Choleg Bangor a Phwyllgor Addysg Sir Feirionnydd, Athro a Threfnydd dros y sir honno, sef y Parch. E. CADVAN Jones. Y mae Mr. Jones yn ẁr gradd o Brifysgolion Cymru, Caergrawnt a Llundain, mewn Athroniaeth, Llen- yddiaeth ac Economeg, a bu'n athro dosbarthiadau'r W.E.A. yn y De am flynyddoedd. Fe gollodd y W. E. A. yn y Gogledd yn ddiweddar, nid yn unig wasanaeth Mrs. Silyn Roberts, ond hefyd ei chynorthwyydd yn y swyddfa, Miss ELUNED PARRY. Penodwyd Miss Parry yn brif ysgrifennydd yn swyddfa Adran Amaethyddiaeth Coleg Bangor, a phenodwyd Miss VERA THOMAS, Rhiwlas, yn ysgrifennydd i'r W.E.A. yn ei lle. "Hwyl fawr" i'r ddwy yn eu gwaith newydd. Dyma rai o awduron y rhifyn hwn: DAVID E. Evans, Cwm Rhondda-Athro a Threfnydd y Dosbarthiadau Tu Allan ar Staff Coleg Caerdydd. R. WALLIS EVANS—Athro yn Ysgol Ramadeg y Bala. Dr. T. Hughes GRIFFITHS, Caerfyrddin-Athro Dosbarthiadau ar Staff Coleg Aberystwyth. D. CARADOG JONES—Athro Dosbarthiadau ar Staff Prifysgol Leeds, a chyn hynny yn Uwchaled. J. T. JONES—Prifathro'r Ysgol Fodern, Porthmadog. Miss Lizzie JONES—Aelod o Ddosbarth Cesarea, Sir Gaernarfon. Y Parch. GRIFFITH J. ROBERTS—Ficer Llannefydd, Sir Ddiribych. ROBERT O. ROBERTS—Un o'r Rhiwlas, Sir Gaernarfon, sydd dros dro mewn ysbyty; hyd yn ddiweddar yr oedd ar Staff y Swyddfa Dramor. Dr. J. ALUN THOMAS—Darlithydd ar Athroniaeth Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor.. WILLIAM WILLIAMS—Llyfrgellydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.