Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Nationalism and After, by E. H. Carr. Macmillan, 3/6. Pererindoä Heddwch, gan George M. Ll. Davies. Gwasg Gee, 6/ Diddorol iawn ydyw darllen y ddau lyfr uchod, wedi eu sgrifennu ar broblemau tebyg, ond oddi ar safbwyntiau gwahanol. Y mae dull yr Athro Carr o agosáu at ei bwnc yr hyn a ddisgwyliem oddi wrth un sydd yn darlithio ar Gyd-berthynas y Gwledydd ym Mhrifysgol Cymru; ond agwedd bersonol sydd gan George M. Ll. Davies-safbwynt gweithiwr Cristionogol anuniongred. a fu unwaith yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Gobeithio y bydd i ddarllenwyr LLEUFER astudio'r ddau lyfr. Y mae llyfrau'r Athro Carr yn adnabyddus ac yn anhepgorol i bob efrydydd ar Bynciau Cydwladol, a chynigia'r gyfrol uchod ddadansoddiad rhagorol iawn o Genedlaetholdeb a'i dwf. Rhennir y llyfr yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf ceir trafodaeth ar dri chyfnod yn y datblygiad. Parhaodd y cyfnod cyntaf o ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd y Chwyldro Ffrengig, a chynrychiolwyd y genedl gan y brenin; yn yr ail gyfnod, o'r Chwyldro- Ffrengig hyd 1914, cymerodd cenedlaetholdeb ffurf werinol; ac yn y trydydd cyfnod, ffurf sosialaidd, ond ni ddylid priodoli'r ystyr arferol i'r gair "sosialaidd" yma. Mewn adran arall, sonia am bedwerydd cyfnod, ond yma dyfalu am y dyfodol a wna. Yn yr ail ran o'i lyfr, gwna'r Athro ymchwiliad i ragolygon trefn gydwladol. Rhydd drafodaeth ar yr unigolyn a'r genedl, ar egwyddorion sylfaenol y drefn newydd, a'i syniadau am y drefn gydwladwriaethol a grym. Ni allwn lai na theimlo, yn y rhan hon o'r llyfr, ei fod yn synied bod Duw neu Natur wedi gosod deddfau i lawr, tebyg i'r eiddo'r Mediaid a'r Persiaid, sydd yn gwneud y drefn newydd yn amhosibl. Tybia fod yn rhaid i genhedloedd mawrion anwybyddu hawliau cenhedloedd bychain. Os yw hyn yn wir, gorau po gyntaf i ddynion ddilyn cyngor Heracleitos. i ddinasyddion Effesus gynt, a myned allan ac ymgrogi. Ond y mae'n amlwg nad ydyw na Duw na Natur wedi ordeinio'r fath ddeddfau, a bod gan ddyn (neu ei lywodraethau cenedlaethol) ddewisiad eglur o'i flaen. Er bod llyfr George M. Ll. Davies wedi ei sgrifennu ar.ffurf hunan- gofiant, fe ymdrinia â phroblemau tebyg i'r eiddo'r Athró Carr, ond yn erbyn cefndir o argyhoeddiad crefyddol dwys a diffuant. Y mae'r hanes yn siwr o swyno'r darllenydd, a thrwy'r manylion fe red, megis llinyn arian, y gredo mai troi'r rudd arall, yn yr ystyr gadarnhaol, yw'r unig ffordd i ddynion unigol, neu genhedloedd, sefydlu perthynas gywir â'i gilydd. Dechreua'r llyfr gyda Phenderfyniadau'r Methodistiaid Calfinaidd yn Sasiwn Bryn Crug, Ebrill 1942, ynglýn â rhyfel, a cheir hefyd sylwadau George Davies ei hun arnynt. Y bedwaredd bennod, a'r chweched, yw'r rhai mwyaf diddorol yn y llyfr. Ceir ynddynt hanes teithiau'r awdu'r ar y Cyfandir ac ym Mhrydain, a'i arbrofion o'r dull pasiffistaidd o ddelio ag aflonyddwch diwydiannol. Ymddengys iddo gael peth llwyddiant a pheth methiant. Edrydd hefyd hanes ymdrechion y Crynwyr i helpu Cymru, Ogledd a De, yn ystod y dirwasgiad. Yn y penodau eraill, rhoddir ffeithiau