Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

am gost rhyfel ac arfogaeth, am Heddwch Fersái a'i ffolineb economaidd a moesol, ac ain, ymdrechion heddychwyr pob gwlad i greu cytgord rhwng y gwledydd, a dwyn ymgeledd i'r bobl gyffredin a ddioddefai yn Ewrop a Rwsia ar ôl Rhyfel 1914-18. Rhydd yr awdur hanes yr ymgais i sefydlu ffordd arall i ddelio â phroblemau'r gwledydd er osgoi rhyfeloedd, a cheir manylion am bersonau enwog Mudiad yr Heddychwyr. Y mae ganddo sylwadau craff am yr eglwysi yn Ewrop a Chymru, fel sefydliadau, a gwna apêl gref ar iddynt ddilyn yr hyn a eilw yn "ffordd Crist." Wrth ddarllen y llyfr, y mae rhai casgliadau yn eu hawgrymu eu hunain inni. Rhaid i ddynion wylied y sefydliadau a greir ganddynt, rhag i'r sefydliadau eu carcharu. Tuedda'r fath sefydliadau i droi'n rhwystrau anorfod ar ffordd cydweithrediad dynion a chenhedloedd. Nid yw'r eglwysi yn eithriad i'r rheol hon, fel y gwelir hwynt, er enghraifft, yng Nghymru, â'u ffurf haearnaidd a'i diwinyddiaeth ormodol. Y mae'n bosibl nad yw hyd yn oed y Crynwyr, a'u haeriad fod "y golau mewnol" yn ddigon, Wi gwneud dim mwy na chyflwyno'r hen ddiwinyddiaeth mewn dillad eraiìl. Gyda llaw, diddorol ydyw sylwi mai Platonig. ac nid Cristionogol, yw'r syniad fod patrwm cywir o'r bywyd personol perffaith wedi ei guddio yn y nefóedd, ac yn cael ei ddatguddio i ni. Er nad yw'r awdur yn gwneud gosodiad eglur a phendant ohono, fe welir ganddo hedyn syniad a fynegwyd gan Marx, sef bodolaeth cysylltiadau cymdeithasol ochr yn ochr â chysylltiadau technegol tu mewn i'r sustem economaidd. Cuddiwyd ac anwybyddwyd y cysylltiadau cymdeithasol econ- omaidd yn y gorffennol, ond y mae'n eithaf posibl mai yma y ceir yr allwedd i'r dyfodol. Y mae'n sicr fod eisiau meddwl am ddynion yn eu swydd economaidd, nid fel gallu tec negol (man-power) ond fel dynion, o's ydym am sefydlu brawdgarwch rhyngddynt, yn unigolion ac yn gymdeithasol. Os felly, gallwn oll edmygu George Davies am ei esiampl mewn bywyd ymarferol, a'i arbrofion cymdeithasol, hyd yn oed pan na allom bob amser gytuno â'i syniadau. D. CARADOG JQNES Hwylio'r Moroedd, gan D. Edmund Williams; Gweld y Byd, gan Cyril P. Cule. Llyfrau Pawb, Gwasg Gee, 1/3 yr un. Dau lyfr sy'n deffro'r dychymyg ac yn cynhyrfu'r ysbryd anturiaethus, y naill gan forwr a wybu gyfaredd y môr a swyn porthladdoedd dieithr, a'r llall gan athro ysgol a fedrodd ymgydnabod ag arferion gwledydd tramor a'u disgrifio'n ddeheuig. Dweud hanes ei anturiaethau a wna D. Edmund Williams, ysgrifennu un bennod ddifyr o'i hunan-gofiant, ac adrodd ynddi hanes digwyddiadau cyffrous a dynion diddorol. Rhydd hyn gyfle iddo sôn am arferion a choelion y môr, ac am y dynion y daeth i gyffyrddiad â hwynt ar ei fordeithiau- dynion duon, Gwyddelod, Saeson ac Americanwyr. Y mae cyffro ac anturiaeth a hiwmor bywyd y môr yn llenwi pob pennod o'r llyfr, a cheir gan yr awdur arddull ysgafn, naturiol. Ni all neb ddarllen y llyfr hwn heb brofi blas cyfrin y môr a'i bethau, a heb ddyfod dan swyn y gŵr a wybu anturiaeth. ·