Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mabwysiadwyd dull arall gan awdur Gweld y Byd. Sieryd ef yn y trydydd person unigol, a gesyd o'n blaen bennod o'i brofiad ar ddull nofel. Dyma ddull mwy cywrain ac artistig, yn rhoi i'r darllenydd gyfle i fwynhau'r stori yn ogystal â chyfle i ddyfod i gyffyrddiad ag arferion a nodweddion gwledydd tramor. Diau mai yn newydd-deb ei deunydd y mae apêl gryfaf y nofel hon. At hyn rhaid dweud bod gan yr awdur arddull ystwyth a deniadol. Rhwng y deunydd a'r stori a'r arddull, ceir hon yn gyfrol flasus a diddorol o'i dechrau i'w diwedd. Ar Lwybr Serch, gan T. Trefor Jones. Gwasg Gee, 3/6. Llyfr yw hwn sy'n galw am drafodaeth ar ei gynnwys a'i neges. Dylid cydnabod bellach fod agwedd ein hoes ni at broblemau serch a rhyw wedi newid llawer er amser ein tadau. Mewn llenyddiaeth Saesneg gyfoes gwyntyllir yn blaen a difloesgni, mewn nofelau a thestun-lyfrau, bethau na feiddid eu crybwyll hanner can mlynedd yn ôl; a cheir erbyn heddiw, hyd yn oed yng Nghymru geidwadol, ysgol sy'n credu y dylid trafod rhyw a pherthynas mab a merch yn agored a phlaen. I'r neb sy'n credu hyn dyma o'r diwedd yn Gymraeg lyfr gwerth ei ddarllen. Cafwýd eisoes erthyglau 2. sgyrsau ar y mater hwn, ond bellach dyma lyfr safonol gan feddyg o Gymro yn trafod y broblem o safbwynt y teulu Cristionogol. Y mae tair rhan i'r llyfr, ac atodiad ar "Iechyd" ar ei ddiwedd. Yn y rhan gyntaf trafodir nodweddion cynhenid teulu yng ngoleuni ei gefndir a'i draddodiadau, ac yng ngoleuni gogwydd cymdeithas gyfoes. Yn yr ail ran trafodir yn uniongyrchol berthynas y ddau ryw cyn priodi, ac ar ôl hynny, gan roi sylw arbennig i gysegredigrwydd personoliaeth, hawliau moesoldeb a gofynion y grefydd Gristionogol. Yn y drydedd ran ceir trafodaeth ar y dull o. ddysgu plant a phobl ieuainc, ac egluro iddyat gyfrinachau serch a rhyw. Amheuthun yw'r pwyslais a welir drwy gydol y llyfr ar werth personoliaeth, ac ar sylfaen foesol ac ysbrydol y teulu. Teimlir a* brydiau fod yn y llyfr duedd i or-bwysleisio "dwyfoldeb" pethau materol a greddfau naturiol, ac o bosibl ar brydiau ormod o ddefnyddio Cristionogaeth i gael y maen i 'r wal, orid amcan aruchel sydd i 'r tueddiadau hyn, sef rhoi darlun delfrydol o deulu, cysegru perthynas mab a merch, a gwarchod rhag cam-ddefnyddio a dibrisio cyneddfau a all fod o fendith i gartref a chenedl. I'r neb a gredo fod trafodaeth agored fel hyn yn lles dyma'n bendi- faddau lyfr gwerthfawr, ac ni ellir ond cymeradwyo'r pwyslais iach a rydd ar hanfodion teulu yn ystyr uchaf y gair. G. J. ROBERTS The Exploitation of Foreign Labour in Germany. International Labour Office. Lliain, 7/6. Yr oedd gan Hitler a'i lywodraeth gynllun terfynol i ad-drefnu Ewrop yn gyfan gwbl. Prif nodweddion ei gynllun oedd fel a ganlyn: (a) darostwng Ewrop, o Iwerydd i fynyddoedd yr Ural, ac o Greenland i dywod Sahara, fel uned daearyddol; (b) creu gwladwriaeth unedig Ewropeaidd Naziaidd. o dan ei lywodraeth ef; a (c) threfnu sustem economaidd yn y fath fodd fel