Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

na allai unrhyw ran o'r cyfandir unedig godi ei phen mewn gwrthryfel am ryddid. Fe fethodd â chyrraedd yr Ural na'r Sahara, ond fe goncrodd y gweddillo Ewrop, ac yno, tra gallodd gadwei afaelary gwledydd.adeiladodd yn ôl ei gyfle ei sustem economaidd. Ei amcan oedd casglu diwydiannau trymion Ewrop o fewn tiriogaeth yr Almaen, ac Almaneiddio cyfalaf a llywodraeth y gweddill na allai eu symud o dan amodau rhyfel, neu eu dinistri» yn y fan. Fe symudodd gryn lawer ohonynt o dro i dro. Wrth gwrs, yr.oedd angen symud y gweithwyr yn ogystal â'r peiriannau. Dyma un o'r pethau mwyaf chwyldroadol a wnaeth Hitler ar gyfandir Ewrop, sef diwreiddio miliynau o weithwyr, a'u cludo i'r Almaen, neu o wlad i wlad o dan ei awdurdod. Dywaid ystadegau fod o leiaf 26 miliwn o'r trueiniaid hyn wedi eu herlid o'u gwahanol wledydd yn y proses hwn o sylweddoli ei drefn yn Ewrop. Ceir yn yr adroddiad hwn o'r I.L.O, amlinelliad clir o'r dulliau a fabwysiadodd Llywodraeth Hitler i symud peiriannau'a gweithwyr Ffrainc, Belgium, a'r gwledydd eraill a oedd o dan ei orthrwm. Cawn ynddo nid yn unig ystadegau yn egluro maint y broblem, ond hefyd gyflogau, amodau gwaith, yswiriant diwydiannol, pensiynaù o bob math, a ffyrdd disgyblu'r rhai a wrthwynebodd ei gynllun. Er bod yr Adroddiad yn un gweddol gyflawn a gofalus, o'r braidd y medrwn ddirnad effaith y cynllun cyfandirol hwn ar y miliynau a ddioddefodd dano. Gwelwn eisoes y symud a fu i gyfeiriad radicaliaeth o bob math ymhlith y werin yn y gwledydd a orchfygodd Hitler. Maes o law fe ddaw'r pictiwr i 'r wyneb yn glir. Diolchwn am yr Adroddiad hwn o eiddo awdurdodau'r I.L.O., am gasgliad mor ofalus o'r ffeithiau a'r ffigurau sydd mor hanfodol i'r athro fel i'r myfyriwr yn y maes hwn. T. HUGHES GRIFFITHS CYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr — Ernest Green, 38a St. George's Drive, London, S.W. 1. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru Cymdeithas Addysg y Gweithwyr — D. T. Guy, Swyddfa'r W.E.A., 38 Charles Street, Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr,- C. E. Thomas, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. Golygydd LLEUFER,—David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER,—D. Tecwyn Lloyd, Pen-y-Bryn, Glan- rafon, ger Corwen. Dosbarthwr Lleufer, — Miss Vera Thomas, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor.