Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRA WN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CvF. II GWANWYN 1946 Rhif 1 NODIADAU'R GOLYGYDD Pan oedd y rhifyn diwaethaf wedi ei gysodi, ac ar fin ei argraffu, daeth y newydd fod y Rheolydd Papur yn caniatáu cychwyn cylchgronau newydd- ion. Cyn hynny, nid oeddem yn rhydd i gyhoeddi cylchgrawn rheolaidd, ond yn unig "Gasgliad o Ysgrifau" yn awr ac yn y man. Bellach, aeth dyddiau ein hadfyd heibio, ac fe gyhocddir LLEUFER yn rheolaidd bob chwarter blwyddyn o hyn ymlaen, gobeithio. Fe anelwn at gyhoeddi'r rhifynnau yn gynnar ym misoedd Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr. Yr wyf yn ddiolchgar dros ben i Athrawon y Dosbarthiadau, a Athrawon y Colegau, a meibion a merched prysur eraill sydd mewn safleoedd pwysig, am eu parodrwydd i gefnogi Addysg Pobl mewn Oed yng Nghymru drwy sgrifennu ysgrifau i LLEUFER. Ond ychydig o waith aelcdau'r dosbarthiadau a dderbyniais hyd yn hyn; rhaid inni gael mwy o'u gwaith hwy yn eu cylchgrawn hwy eu hunain. Ac uwchlaw pob dim, pa ddiffygion bynnag eraill sydd ar LLEUFER, y mae ynddo lawer rhy ychydig o hanes y mudiad-hanes y canghennau a'r dosbarthiadau. Da chwi, anfonwch bytiau diddorcl o newyddion imi o'r gwahanol ardaloedd, rhywbeth a fydd yn ddifyr i bobl eraill ei ddarllen. Un o brif amcanion sefydlu LLEUFER ydyw cydio Canghennau'r W.E.A., a'r Dosbarthiadau Tu Allan, wrth ei gilydd, drwy rcddi iddynt hanes ei gilydd. Bydd croeso hefyd i lythyrau oddi wrth ddarllenwyr ar ryw bwnc a fo'n ymwneud á gwaith y W.E.A. a'r dosbarthiadau, neu ag addysg yng Nghymru. Y mae arwyddion cyffro a bywyd ym myd Addysg yng Nghymrn yn y blynyddoedd nesaf yma-llawer ohono' n ffrwyth Deddf Addysg 1944. Bydd mwy o golegau i hyfforddi athrawon, a mwy o angen athrawon am flynydd- oedd lawer i ddyfod; mwy o fyfyrwyr yn y colegau eraill hefyd, wedi rhyddhau'r bechgyn a'r genethod o'r lluoedd, ac fel yr estynnir cyfleusterau addysg; ysgol i bob plentyn hyd at 16 mlwydd oed, a Choleg Pentref iddo hyd at ddeunaw oed ac fe sonnir y dyddiau hyn am sefydlu Gwersyll Ysgol i Gymru o11, lle y gall plant y Gogledd a'r r De gyd-ddysgu, a mwynhau bywyd gwersyll, a phrofi hefyd o rai o'r manteision a rydd yr Ysgolion Preswyl oddi cartref i blant y dosbarthiadau breintiedig yn Lloegr. Fe roddir cynnig hefyd, y mae'n ddiamau, ar wahanol ddulliau o gyfrannu addysg i'r Rhai mewn Oed-megis cynllun ABCA. Cyfnod o arbrofi, ac o estyn cyfleusterau fydd y cyfnod nesaf, a cheir trafodaethau ar rai agweddau ar y datblygiad hwn ar ddalennau LLEUFER.