Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YRALLWEDD I AWDL "YR ARWR" HEDD WYN Gan CYNAN Yn ei feirniadaeth ar "Yr Arwr," gan Hedd Wyn-Awdl Cadair Ddu Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead-proffwydodd yr Archdderwydd Dyfed: "Efallai na ddaw yr awdl hon byth yn boblogaidd­-y mae'n rhy gyfriniol i oes mor ddi-amynedd â hon". Diau mai gwir y broffwydoliaeth. Mi wn am lawer Cymro ifanc heddiw a ddechreuodd ddarllen yr awdl yn llawn chwilfrydedd, ar ôl clywed stori drist Y Gadair Ddu, ond a'i rhoes o'r neilltu cyn hir gan gwyno, fel y beirniaid yn Birkenhead, fod gormod o niwl ynddi. Diau bod aneglurder mewn rhai darnau ohoni, a bod ei geirfa ramantaidd o gyfnod y "macwy-rhiain" yn fwrn ar ddarllenydd heddiw. Ond chwarae teg i Hedd Wyn, clwyoedd y ffasiwn honno a ddisgynnodd yn drwm ar bob bardd ifanc o Gymro yn y blynyddoedd a ddilynodd ryfeddod "Awdl Yr Haf." "Anhraethol bwysicach pwnc," chwedl beirniadaeth Dr. T. Gwynn Jones, "yw pa beth yw ystyr y gerdd. Pwy yw'r Arwr, a phwy yw Merch y Drycinoedd ? Pe gellid deall hynny, byddai gennym yr allwedd i fawredd y gerdd; ac fe gytunodd y tri beirniad-Dyfed, J.J., a T. Gwynn Jones-fod ynddi fawredd er ei haneglurder. Esboniad Dyfed a "J.J." yw mai Y Werin a'i Gwaredwr sydd i'w deall wrth Yr Arwr a Merch y Drycinoedd; ond y dehongliad tebycaf o Ferch y Drycinoedd, yn ôl T. Gwynn Jones, "yw mai dros y Fenyw y saif hi-y Ferch a sarnwyd dan draed nwyd a chwant ar hyd yr oesau, ac y gwrthodir iddi ryddid a chydraddoldeb hyd heddiw (1917), er mai hi, yn y pen draw, sy'n gorfod dioddef gwaethaf pob brwydr." Dichon mai peth rhyfygus yw dweud, gyda pharch mawr, fy mod i'n anghvtuno' n llwyr â' r ddau ddehongliad; ond mi gaf bardwn am fy rhyfyg gan Dr. Gwynn Jones o leiaf, oherwydd tua diwedd ei feirniadaeth fe eddyf ef fod llawer cerdd odidog na chytunai dau ddarllenydd yn hcllol ar ei dehongliad. Anghytunaf yr un mor bendant â'r dehongliad poblogaidd o'r Arwr, sef mai Crist a ddarlunnir gan y bardd. Credaf mai dyna'r argraff a roir ar lawer darllenydd gan y teitlau a geir uwchben gwahanol ganiadau'r gerdd: 1. "Yr Eneiniog" 2. "Y Gŵr Gofidus" 3. "Y Merthyr"; 4. "Y Dyrchafael. O'u cysylltiad â diwinyddiaeth Gristionogol arweiniodd y teitlau hyn lawer un i feddwl mai disgrifiad o Ben Calfaria a geir yn y trydydd caniad, lle sonnir am Yr Arwr "ar ei grog draw yn crogi." Ond wrth ddilyn y dehongliad hwnnw fe'i caiff y darllenydd ei hun mewn mwy o niwl nag erioed, oherwydd traethir pethau am yr Arwr Croeshoeliedig hwn na ellir eu cysoni'n llythrennol, 0 leiaf, â'r Efengylau; er enghraifft, sonnir am wallt gwyn y croeshoeliedig: "Heno bydd salm y bedd syn Yn torri trwy'i wallt hirwyn."