Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i weled y cyfaill hwnnw a gofyn iddo. Cadarnhaodd yntau fy nyfaliad yn llwyr; a dywedodd wrthyf mai un o hoff feysydd darllen Hedd Wyn oedd y bennod ar Shelley yn y gyfrol, Homes and Haunts of the British Poets, a gafodd yn fenthyg ganddo ef, a bod yn y bennod honno ddadelfeniad o thema Prometheus Unbound. Y mae'r cyfaill hwnnw'n awr yn adnabyddus i Gymru gyfan fel y Parchedig William Morris, Siloh, Caernarfon, y prifardd a'r llenor rhagorol, a olygodd argraffiad prydferth Wrecsam o Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn yn 1931. Pan oedd Syr Frederick Rees, Prifathro Coleg Caerdydd, yn Ceylon ym mis Ionawr 1945, yn aelod o Gomisiwn Brenhinol, fe'i gwahoddwyd i annerch Cyfarfod o Athrawon a Graddedigion Prifysgol yr Ynys. Cyhoedd- wyd ei anerchiad yn llawn yn y cylchgrawn Wales, Rhagfyr 1945. Dyma gyfieithu darn ohono: "Y mae un agwedd ar waith ein Prifysgol ni a all fod yn newydd ichwi -y peth a alwn yn 'Estyniad y Brifysgol.' Rhyw ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd cryn gynnwrf ymhlith dynion ieuainc, yn enwedig o'r hen brif- ysgolion, o blaid estyn manteision addysg prifysgol i bobl mewn oed na chawsent erioed gyfle i gyfranogi'bhonynt. Trefnwyd dosbarthiadau o dan gyfarwyddyd athro yn arbennig i aelodau o'r dosbarth gweithiol, mewn pynciau fel Llên Saesneg, Economeg, a Hanes Modem. Cyfarfyddent unwaith yr wythnos drwy'r gaeaf, gan roddi awr i wrando darlith gan athro o'r brifysgol, ac yna trafod y pwnc am awr arall o dan ei arweiniad. Darparwyd cistiau o lyfrau cyfaddas i aelodau'r dosbarth i'w darllen gartref. Gallaf hawlio i mi fy hun fod yn un o'r arloeswyr. Yn ystod gaeaf 1910-11, awn bob nos Wener o Fangor, lle yr oeddwn yn ddarlithydd yn y coleg, i Flaenau Ffestiniog i addysgu dosbarth o chwarelwyr llechi. Hwn oedd y dosbarth cyntaf o'i fath a gynhaliwyd o dan nawdd coleg Cymreig. Yr oedd rhwng ugain a deg ar hugain o aelodau ynddo. Heddiw, y mae dros dair mil o feibion a merched trwy Gymru i gyd yn mynychu dosbarthiadau fel hyn. Efallai y clyw graddedigion ieuainc Prifysgol Ceylon ryw ddiwrnod alwad i wneuthur gwaith cyffelyb ymhlith eich pobl chwithau. 'Nid oherwydd ei galedwaith y gofidiaf dros y tlawd,' meddai Thomas Carlyle; 'rhaid inni bawb weithio neu ladrata (pa enw bynnag a roddom ar ein lladrad). Yr hyn sydd yn fy nhristáu ydyw bod llusern ei enaid yn diffoddi i Bod dyn yn marw yn anwybödus, a chanddo'r gallu i ddysgu, dyma beth a alwaf i yn drueni, ac fe ddigwydd yn amlach nag ugain gwaith bob munud, ynôlcyfrif rhai.' Dylai symud ý trueni hwn o'nl)ywyd cym- deithasol fod yn nod gan bawb a gafodd fanteision addysg ●α hunain."