Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATOM Gan W. R. ANGUS Yn ddiweddar, daeth y darllenydd cyffredin yn gynefin â nifer o dermau technegol ynglŷn â'r bom atomig heb fod eu hystyr yn gwbí eglur iddo-— termau fel isotop, neutron, uranium, nucleus atomig, dwfr trwm, a deuterium. Defnyddia'r papurau newyddion y termau hyn, yn fwy neu lai cywir, ond nid yn aml yr ânt i 'r drafferth i egluro eu hystyr a'u harwyddocâd. Ceisiaf egluro yn yr ysgrif hon sut y dysgwyd am y pethau hyn. Ni soniaf am gyfansoddiad y bom atomig ei hun, na holi pa un ai da ai drwg yw ei ddefnyddio, na phroffwydo'r defnydd a wneir ohono mewn diwydiant, na thrafod "polities" y pwnc. Tarddodd y rhan fwyaf o'r termau hyn yn y dechrau o ymchwil dyn am gosmogoni (athrawiaeth i egluro'r cread), a bernais mai peth buddiol felly fyddai trafod yn fyr brif bwyntiau'r ymchwil honno cyn cynnig egluro'r termau diweddar. Nid oes amheuaeth nad yw'r awydd am esbonio digwyddiadau natur drwy chwilio i mewn i ddeunydd sylfaenol mater yn un o briodoleddau cynhenid meddwl dyn. Profir hyn gan hanes. Cyfrannodd pob gwareiddiad rywfaint, ac yn wir yr oedd y cynigion cyntaf oll yn ymdrin â chyfansoddiad mater, dirgelwch bywyd a meddwl, a rheolau buchedd. Y mae cynigion diweddarach yn fwy cyfyng eu cylch, ac yn ymwneud â chyfansoddiad mater yn ,unig. Y mae'n amheus a oedd gan wyddor gynnar China (oddeutu 2,000 CC.) athroniaeth atomistaidd, ond sicr yw bod athroniaeth gynnar India yn atomistaidd ei dull o feddwl 1,200 mlynedd Cyn Crist. Gwelir hynny oddi wrth syniadau Kanada fod pum math sylfaenol o fater, a phob un ohonynt â'i nodwedd arbennig ei hun. Efallai fod athroniaeth Groeg wedi benthyca rhai syniadau gan yr Indiaid, ond nid yw'r dystiolaeth yn glir. Perthyn syniadau Groeg i nifer o gylchoedd gwahanol. Syniai cylch Ionia (Thales o Filetus, Anacsimander ac Anacsimenes) mai un math o fater sydd, ond nid ymddengys eu bod yn unfryd ar ba fath ydoedd. Daliad'r Pythagoreaid mai rhif oedd yr un peth arhosol, ond cymerai'r Eleatiaid undeb pob dim yn ddrychfeddwl sylfaenol. Dysgodd Heraclitu&o Effesus, o'r ochr arall, nad oedd dim byd yn arhosol, ond bod mater yn newid ac yn newid e hyd. "Y mae newid ymhobman; ni ellwch ymdrochi yn yr un afon ddwywaith, na ellwch, hyd yn oed unwaith. Empedocles ac Anacsagoras oedd y ddau brif athronydd a ddysgai fod pedair elfen sylfaenol—tân, daear, awyr a dwfr-a chymerid bod y rhain yn ddigyfnewid, yn unrhywiol, ac yn anninistradwy. I'r pedair elfen hyn y perthynai 'r holl sylweddau. Pan gysylltid elfennau mewn modd neilltuol, fe geid sylwedd ac iddo nodweddion arbennig; pan ddatgysylltid hwy mewn modd neilltuol, byddai gan y sylwedd newydd ei nodweddion arbennig ei hun. Coleddid y syniad diniwed Jod cysylltiad a datgysylltiad yn deillio oddi wrth weithrediad galluoedd "cariad" a "chas.