Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Avogadro, Cannizarro, Berzelius, Dumas, Wollaston Dulong a Petit, Mitscherlich, Marignac, Stas, Richards, Whytlaw-Gray, Aston, Dempster a Bainbridge. I 'n pwrpas ni yn awr, nid yw pennu 'r pwysau atomig yn cyfrif lawer ond yn unig cyn belled ag y gellir cysylltu 'r wybodaeth honno ag ymddygiad fferyllol sylweddau. Casglwyd ynghyd bentwr o wybodaeth am briodoleddau fferyllol ac aniannol elfennau, a'u pwysau atomig, ac yna ceisiwyd trefnu dosbarthiad o'r elfennau, a dangos oddi wrtho fod cysylltiad rhwng pwysau atomig rhyw elfen a rhyw briodoledd arbennig, neu set o briodoleddau. Wedi gwneud hyn, daeth yn amlwg fod rhai elfennau'n debyg í'w gilydd o ran eu hymddygiad, a bod y tebygrwydd hwn yn digwydd ac yn ail ddig- wydd mewn cyfnodau rheolaidd, wedi unwaith drefnu'r elfennau yn ôl eu pwysau atomig. Enw Mendeléef y fferyllydd Rwsiaidd, ydyw'r amlycaf yn y gwaith hwn; lluniodd ef gyfundrefn (a elwir yn awr yn gyffredin yn "ddosbarthiad cyfnodol") o'r elfennau, lle y mae perthynas i 'w weld rhwng eu pwysau atomig a'u hymddygiad fferyllol. Ar bwys y gyfundrefn hon, fe ddaeth yn bosibl. i raddau helaeth, esbonio paham yr oedd rhai priod- oleddau yn ail ddigwydd yn gyfnodol (" cyfnodolrwydd ymddygiad"), a daeth yn bosibl hefyd broffwydo'n lled sicr fodolaeth a nodweddion rhai elfennau a oedd heb eu darganfod eto. Gwiriwyd y broffwydoliaeth, ac erbyn heddiw nid oes ond dau fwlch heb eu llenwi yn yr holl gyfundrefn. Fe'u llenwir hwythau; y mae'n rhaid i hynny fod. Dyna, yn fras, ynteu, safle ein gwybodaeth ar ddiwedd y ganrif ddiwaethaf­-tybid bod rhyw atom anrhanadwy yn bod mewn 92 o wahanol elfennau. a phob un â'i bwysau atomig ei hun. Rhif cyfan oedd y pwysau ran amlaf, ond yr oedd gan rai ylweddau rifau a ffracsiwn; parai'r ffrac- siynau hyn gryn lawer o ddr\wch i lunwyr y damcaniaethau, ac nid hwy oedd yr unig achosion dryswch. Fesul tipyn, yr oedd syniadau yn newid, ac amhon yn cyfodi. Ymddangosai 'n amhosibl dal i gredu bod yr atom yn rhywbeth na ellid ei rannu. (I'w barhau) Y MAE MWY NAG UN II. THOMAS JONES (1) DR. THOMAS JONES, o Gwm Rhymni, g. 1870. Un o sylfaenwyr Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru; Llywydd Coleg y Brif- ysgol, Aberystwyth, a Chadeirydd Coleg Harlech. Awdur Rhymney Memories, Leeks and Daffodils, Cerrig Milltir, What is Wrong with South Walesì etc. (2) THOMAS JONES, o'r Alltwen, Pontardawe, g. 1910. Darlithydd yn yr Adran Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Awdur Gerallt Gymro, Y Bioyl Ynghymraec, Brut y Tywysogýon (Peniarth 20), Ystori Bob Nos, etc. (3) Thomas Jones, o Bencader, g. 1908. Gynt ysgolfeistr yn Sir Frycheiniog; Trefnydd Undeb Cymru Fydd et 1944.