Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CO-OP YN Y BYD YFORY GAN ILLTYD DAVID Co-operative Organisations and Post-War Relief. International Labour Office, Montreal, 4/ Prif amcan y llyfr hwn, a gyhoeddwyd gan yr I.L.O., ydyw ymdrin â'r rhan y dichon i'r Cymdeithasau Cydweithredol ei chymryd yng ngwaith gweinyddu cymorth ac ad-drefnu yn Ewrop. Ond yn gyntaf, eglura'r egwyddorion a orwedd o dan y Mudiad Cydweithredol, ac yna rhoddi braslun o'r prif fathau o gymdeithasau cydweithredol sydd yn y byd heddiw. Heb wneud amlinelliad o'i athroniaeth, a bwrw golwg dros y gwaith a gyflawna, byddai'n anodd mesur y cyfraniad y gallai'r mudiad ei wneud tuag at ddatrys y ddau bwnc dyrys a chysylltíedig-sef, cael ffynonellau parod i gyflenwi nwyddau materol, a sianelau agored i'w rhannu ymhlith y bobl sydd yn dioddef. Bu raid i'r Mudiad Cydweithredol, fel mudiadau gwerinol eraill, ymladd am ei fywyd yn erbyn syniadau hen unigoliaeth a gwrthwynebiad y buddiannau sefydledig, drwy rym ad-dyniad ei ddelfrydau ac effeithiol- rwydd y gwasanaeth a roddai. Profir yn y ffigurau (anghyflawn, o angen- rheidrwydd) a roddir yn y llyfr hwn mor nodedig a fu ei lwyddiant. Mudiad cwbl wirfoddol a democratig ydyw, yn agored i bawb, a'i brif amcan ydyw cyflenwi anghenion pobl gyffredin o dan amodau o ansicrwydd economaidd, eu cyflenwi â bwyd, dillad, a lloches, er enghraifft, am brisiau rhesymol. Y mae'r Mudiad Cydweithredol yn wahánol i'r Cwmnïau cyfalafol sydd yn cystadlu ag ef, oblegid fe'i rheolir gan ei gwsmeriaid sydd yn aelodau ohono, a derbyniant hwythau gyfran o'r enillion yn ôl cyfartaledd eu pwrcasiadau. Ni fu'r mudiad erioed, fodd bynnag, yn fudiad a fodlonai ar roddi gwasanaeth economaidd yn unig i' w aelodau; darparodd hefyd gyf- leusterau addysg i' w cymhwyso ar gyfer gwneud gwaith technegol oddi mewn i'r mudiad ei hun, a rhydd gyrsau o astudiaeth i ddatblygu eu galluoedd fel dinasyddion ac fel dynion. Y mae i'r Mudiad Cydweithredol, gan hynny, lawer o agweddau. Gwerinol ydyw ei sylfeini, ac felly darpara yn bennaf oll ar gyfer anghenion y dosbarthiadau prin eu henillion, a dyry iddynt gyfleusterau i gyfranogi o weithrediadau economaidd cymdeithas, ac i'w rheoli. Yn ei gylch economaidd ei hun, fe ddwg i mewn drefn a chynllun, a'r rheini wedi eu seilio, nid ar orfodaeth, ond ar ewyllysgarwch. Uwchlaw'r cwbl, tuedda i fagu dinasyddion hyderus, a chanddynt syniadau priodol am werth eu personoliaeth, a'u dyletswydd i gymdeithas. Wedi gosod i lawr egwyddorion sylfaenol y mudiad, ac amlinellu ei wahanol ffurfiau, â'r Adroddiad ymlaen i drafod anghenion y bobl a ddioddefodd oddi wrth drueni difesur blynyddoedd y Rhyfel. Rhydd sylw yn gyntaf i'r gwaith dyrys o chwilio am ffynonellau cyflenwad nwyddau a chyfryngau i'w dosbarthu, ac i'r diben hwnnw ystyria honiad y Mudiad Cydweithredol fod ganddo gyfraniad arbennig i'w roddi tuag at ddatrys