Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr anhawster. Y mae gan y mudiad gyfundrefn wych o gyfryngau dosbarthu yn ymestyn fel rhwydwaith dros holl wledydd Ewrop, a rhannau eraill o'r byd; fe'i gwasanaethir gan staffiau rhagorol o feibion a merched wedi eu hyfforddi ar gyfer y gwaith, a chanddynt brofiad helaeth mewn cyflenwi anghenion sylfaenol eu cwsmeriaid yn yr haenau o gymdeithas a ddioddefodd fwyaf oddi wrth amgy1chiadau'r Rhyfel. Hawlia'r Mudiad, gan hynny, fod ganddo offeryn effeithiol yn ei ddwylo i leddfu cyni yn ddi-oed, ac y gellir ei ehangu ymhellach yn ystod y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel. Dioddefodd y Cymdeithasau Cydweithredol, fel cymdeithasau eraill, mewn amrywiol ffyrdd o achos y Rhyfel, oddi wrth ymyriad y Wladwriaeth â chwrs cyffredin masnach, oddi wrth gyfyngiadau a phrinder, oddi wrth ddinistrio nwyddau gan belennau o'r awyr, acoddi wrth rwystrau a osodwyd ar eu ffordd gan lywodraethau sydd yn elyniaethus i'r delfryd democrataidd. Llwyddodd yr ysbryd cydweithredol, fodd bynnag, i osgoi'r drygau hyn, a hyd yn oed i ffynnu o dan eu hymosodiad. Yn Ewrop yn unig, fe ddeil dros ugain mil o Gymdeithasau Dosbarthu, drwy eu siopau, a 44 mil 0 Gymdeithasau Cydweithredol y Ffermwyr sydd yn gwneud peth gwaith dosbarthu, i wasanaethu, yn ôl yr amcan-gyfrif, rhwng 70 a 80 miliwn o bobl. Heblaw hyn, ceir llawer o gyfryngau cydweithredol eraill, o'r Cymdeithasau Coel Gwledig i'r Tai Bwyta Cydweithredol a'r Ysbytai Cydweithredol, a moddion Iechyd eraill, yn darparu ar gyfer amryfal anghenion y dosbarthiadau o bobl sydd yn ennill cyflogau bychain. Nid hyn eto ydyw'r cwbl chwaith. Heblaw'r gyfundrefn helaeth o gyfryngau dosbarthu sydd yn gwasanaethu cylch ehangach ac ehangach o gwsmeriaid, y mae'r mudiad wedi trefnu moddion cyflenwi ar raddfa fawr iawn. Yn y farchnad yd, er enghraifft, rheola' r Cymdeithasau Cydweithredol 44 y cant o fasnach Canada, a 40 y cant o fasnach Awstralia. Ynglyn â chynnyrch y ty llaeth, drwy'r Cymdeithasau Cydweithredol y daw 90 y cant 0 ymenyn New Zealand, a 92 y cant o'i gaws. Ym marchnad yr Unol Daleithiau, Cymdeithasau Cydweithredol y Ffermwyr a fydd yn gwerthu o 25 i 30 y cant o fwyd y genedl, a chanddynt hwy y cyflenwyd oddeutu traean y bwyd a anfonwyd at wasanaeth y Cenhedloedd Unedig o dan gynllun Lend Lease Cymer y Cymdeithasau Cydweithredol Amaethyddol fwy a mwy o ran ym mywyd economaidd y Dominiynau a' r Trefedigaethau Prydeinig. Rhydd yr Adroddiad ganmcliaeth i'r Mudiad Cydweithredol, yn gyntaf, am y cymorth ymarferol y gall ei roddi ar unwaith i drefnu cyflenwad a dosbarthiad bwyd i bobl anghenus, ac yn ail, am y gobaith a ragddengys ei lwyddiant am ddatblygiadau helaethach yn y dyfodol. Yn wir, y mae cyfraniad y mudiad yn union ar ôl y Rhyfel yn llai ei arwyddocâd na'r gwasanaeth y gall ei roddi dros dymor maith i'r bobl sydd â'u safonau byw yn isel iawn. Mewn rhanbarthau eang o'r byd, lle y mae bywyd y trigolion gwledig yn dlawd ac yn greulon—yn China, India, Dwyrain Ewrop-y mae o fewn gallu' r Mudiad Cydweithredol wella safonau bywyd ,gan chwanegu at urddas y bobl, a rhoddi iddynt yr hyder hwnnw na ellir hebddo adeiladu ysbryd cymdeithasol teilwng o'r ddynoliaeth. Gwaetha'r modd, nid yw'r Adrcddiad yn sôn dim am ochr bersonol ÿ