Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o'u gwaith yw defnyddio'r gwrthrychau yn eu gofal fel y defnyddia ysgol- heigion eraill lawysgrifau mewn llyfrgell, eu defnyddio i adeiladu sunthesis hanesyddol neu wyddonol newydd. Nid yw amgueddfa'n gwasanaethu fel y dylai oni bydd ei staff yn cyhoeddi llyfrau ac ysgrifau 'n gyson i ddehongli eu pynciau i 'r werin. (c) Datblygu yn y cyhoedd ddealltwriaeth aesthetig ym myd y cel- fyddydau, a chreu diddordeb deallus ymhob congl o'r maes gwyddonol a hanesyddol. Fe wneir hyn nid yn unig trwy'r hyn a nodwyd yn (a) a (b), ond trwy sgyrsiau a darlithiau i ymwelwyr yn yr amgueddfa. Gall amgueddfa hefyd wasanaethu yn y cyfeiriad hwn trwy noddi cerddoriaeth, drama a ffilmau, trefnu cyngherddau cyson, a dangos ffilmau (a'u gwneud) sy'n trafod y pynciau yr arbenigir ynddynt gan y staff. A braint pob amgueddfa gwerth yr enw yw gwahodd darlithwyr o fri ym myd ysgolheictod i annerch cyfarfodydd cyhoeddus yn yr amgueddfa ei hun.. (ch) Gwelir cddi wrth y sylwadau uchod mai un o brif amcanion amgueddfa yw dysgu 'r werin-trwy ddangos ac egluro "ein trysorau gwerth- fawrocaf" a phob math o wrthrych sy'n help i ddehongli bywyd y wlad a'i chymdeithas; trwy wneuthir gwaith ymchwil a chyhoeddi hwnnw yn gysojrj trwy ddehongli ac egluro llafar, mewn sgyrsiau a darlithiau yn yr adeilad ei hun; a thrwy noddi pob math o gelfyddyd. Eithr nid dyna'r cwbl. Rhaid i amgueddfa, fel Undeb Addysg y Gweithwyr, ddwyn ei neges at y werin. Nid digon byw mewn twr ifori. Rhaid iddi fentro i 'r "priffyrdd a'r caeau," trwy roddi benthyg defnyddiau-gwrthrychau a darluniau ohonynt-i amgueddfeydd eraill, i ysgolion, ac i wahanol sefydliadau; rhaid iddi anfon ei staff o gwmpas y wlad, nid yn unig i gasglu defnyddiau a gwneuthur gwaith ymchwil, ond i ddarlithio a dehongli. Rhaid iddi greu diddordeb yn ei phynciau hi ymhob cwr o'r wlad, a chreu cyfeillion iddi ymhob plwyf a phentref. Yn arbennig, dylai fod o'r defnydd mwyaf i ysgolion. i ddysgu 'r genhedlaeth newydd yn holl hanes a thraddodiadau ei chymdeithas, fel y gwneler hi yn genhedlaeth sydd â gwreiddiau dyfnion. A gall yr ysgolion fod o ddefnydd helaeth i'r amgueddfa hithau. Hyd yn hyn, sôn a wneuthum am werth amgueddfeydd yn gyffredinol, a cheisio dileu'r syniad mai ystordy pethau marw yw Amgueddfa. Ond prin y gallaf orffen yr ysgrif hon heb gyfeirio at Gymru. Nid oes gennyf hawl i sôn gydag unrhywawdurdod am ddim ond fy Adraniyn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ond credaf y gellir dywedyd bod yr Amgueddfa honno yn ceisio cyflawni'r dyletswyddau a nodais, trwy waith ei chwe Adran- tair ohonynt yn ymwneud â gwlad Cymru, a thair â hanes Dyn yng Nghymru. Y mae'r Adrannau hyn o'r un safon ag Adrannau'r Brifysgol, a gwasanaethir pob un gan o leiaf Geidwad ac Is-Geidwad y gellir eu cymharu ag Athro a Darlithydd Hynaf yn y Colegau. Ac y mae yn yr Amgueddfa Lyfrgell o dros ddeugain mil 0 lyírau at wasanaeth yr Adrannau. Mewn perthynas "mabol" â'r Amgueddfa Genedlaethol y mae yng Nghymru ddwy ar bymtheg o amgueddfeydd lleol. Yn anffodus nid yw Cymru eto wedi deffro i sylweddoli gwerth posibl yr amgueddfeydd hyn. Gwasanaethir y rhan fwyaf ohonynt gan gyfeillion selog sy'n gweithredu'n ddi-dâl, canys ychydig iawn o gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy'n talu cyflog byw i geidwaid amgueddfeydd lleol. Yn aml gofynnir am "lyfr-