Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gellydd a cheidwad amgueddfa," ac wrth gwrs pan ddewisir dyn o'r fath, bydd ganddo gymwysterau fel llyfrgellydd ond disgwylir iddo ofalu am yr amgueddfa yn y fargen" heb hyfforddiant o gwbl at y gwaith. Fel canlyniad i hyn y mae ami amgueddfa leol yng Nghymru yn bur ddilewyrch a marw ond pan fo cyfaill digyflog yn rhoi ei amser a'i egni i ofalu amdani. Fe drefna'r Amgueddfa Genedlaethol ysgol haf flynyddol i'r cyfeillion hyn, ond hyd nes y deffroir y cynghorau lleol i sylweddoli bod arbenigwyr cyflog- edig mor angenrheidiol i amgueddfa leol ag ydyw llyfrgellydd i lyfrgell, ac na ellir yn llwyddiannus gyfuno'r ddwy swydd, ni cheir gwasanaeth amgueddfaol llewyrchus yng Nghymru. Gwerth amgueddfa yw ei bod yn sefydliad byw, dynamig, nid yn stordy creiriau marw sydd ynghlo trwy gydol yr wythnos, "a'r allwedd i'w chael drwy ofyn i'r wraig drws nesaf. Gwelais amgueddfa o'r fath y dydd o'r blaen yng Nghymru, a llwch y pryfed byw o gwmpas ami erfyn diddorol a phwysig. Nid oes werth o gwbl mewn sefydliad o'r fath. Hyn felly yw gwerth amgueddfa, sef yng ngeiriau arwyddair Amgueddfa Genedlaethol Cymru, "dysgu'r byd am Gymru a dysgu'r Cymry am wlad eu tadau." Y mae'r cwbl yn y diffiniad hwn-yr arddangos, y gwaith ymchwil, y cyhoeddi, y darlithio, y gwasanaeth addysg, a'r noddi cel- fyddyd. Yn yr olwg a rydd i 'r byd ar Gymru ac i Gymru arni hi ei hunan y mae gwerth Amgueddfa. Ffynhonnell ysbrydiaeth pob traddodiad ydyw. Fe ddaw'r dydd, a hynny'n fuan mi obeithiaf, pan weithredir ar argym- helliad Amgueddfa Genedlaethol Cymru i'r Pwyllgor Ymgynghorol, sef "bod Amgueddfa Awyr Agored yn rhan hanfodol o'r Amgueddfa Genedl- aethol ac y dylid trefnu ar ei chyfer gan y Llywodraeth. Pan ddêl honno bydd cartref arhosol i fywyd diwylliannol Cymru, lle y daw crefftwyr i ddysgu ac artistiaid i greu, a'r dyn cyffredin i ddysgu'r hen weddustra Cymreig a berthynai i bethau cyffredin bywyd. Yn y cyfamser, defnyddiwn ein holl amgueddfeydd. Ymwelwch â hwynt, anfonwch atynt pan fyddoch am gael gwybodaeth ar unrhyw bwnc a drinir ganddynt. Canys eu prif waith yw adeiladu'r Gymru newydd ac nid. yn unig ddiogelu'r hen. Yng Nghyfrifon Stad Cefn Amwlch, yn Llyn, ceir cyfrif costau adeiladu ή3 gweithiwr yn Edern yn niwedd y flwyddyn 1698-My Disbursemts. for my Mistress-Layd out in makeing Evan Hughes House Y mae'r cyfanswm ddeuswllt yn rhy fychan: Straw 26 loades 01 06 00 4 loades of Wattles 00-05-00 6 rafters. 00 04 00 Thatching 00 05 00 Mudwall57yds:6d.p.yd 01 08 06 03 06 06