Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dieithr, y coed tywyll, a'r niwl hudol melltigaid. Nid ymddangosai iddynt mwyach fod swn clychau'r defaid, a fyrlymai yn rhywlc o'r golwg, yn perthyn i ddiadelloedd o'r byd hwnnw yr oeddynt o'u hanfodd neu yn ddiarwybod wedi ei adael am byth. "Cadwai'r dynion ysgarlad yn ddistaw iawn; os oedd cân ym mhen ambell un ohonynt, ni chanodd mohoni. Nid edrychent i'r dde nac i'r aswy; ni welent eu cymdeithion, na neb ond y gelyn yn unig. Yr oedd lled y gwastadedd yn fawr iawn iddynt hwy. Er mor gyfan ac unol oeddynt, prin y gallent oddef y disgwyl anffrwythlon-trefnasid eu bod i aros am yr ymosodiad, ond teimlid yn awr y gallai'r disgwyl fod yn fwy nag y gallent ei ddioddef. Daethant ymlaen, yn drymion ac yn anystwyth, nid mewn llinell union nac yn ddarn o gylch, nac ychwaith yn anhrefnus naturiol, ond mewn hanner dwsin o linellau union nad unent byth yn un llinell, fel creigiau 'n ymsymud yn erbyn y llanw. Sylwais mai cotiau cochion yr oes hon oedd amdanynt, a bod gynnau ganddynt. â bidogau ar eu blaen. "Ffurfiai'r dynion gwyrdd linell gam afreolaidd fel y môr yn dyfod i mewn. Gorfoleddai pob un, a gorfoleddent gyda'i gilydd, yn ystod munudau eu dynesiad. A chanent. Cân ydoedd a seiniai'n brudd i'w gelynion, oblegid yr oedd ysbryd niwloedd y mynyddoedd ynddi, yn ogystal ag ysbryd y mynyddoedd eu hunain. Tristaodd galonnau 'r gelyn yn rhyfedd; ond am y dynion gwyrdd, fe'u llanwai hwy, fel llenwi cwpan â gwin, â sicrwydd anfarwoldeb. Troent eu llygaid yn aml ar eu cymdeithion agosaf, neu dalient eu pennau yn uchel, fel na chanfyddai eu gwelediad ddim a oedd yn y ddaear nac arni. Prin y gwelent y gelyn o gwbl. Yn bennaf, gwelent eu harweinydd yn neidio'n hoyw, a'i ddeuddeg gwyr cadarn o'i ddeutu. "Yr oedd cariad cyntaf y dynion ysgarlad erbyn hyn wedi marw, neu wedi troi'n gasineb, ofn, digofaint, neu ddirmyg. Efallai fod yn eu plith lawenydd, ond yr oedd holl nwydau 'r unigolion wedi ymdoddi yn un nwyd- os hynny y gellid ei alw-nwyd y dorf, peth ohono'n ddirmyg at y lleill, a pheth yn hyder ynddynt eu hunain. Ond ymysg y dynion gwyrdd yr oedd y cariad cyntaf wedi tyfu'n fuan yn gyffro gwyllt o lawenydd. "Ymwthiai'r dynion ysgarlad llydain ymlaen yn gyson. "Dawnsiodd yr arwr gwyrdd tal ymlaen tuag atynt tan ganu. Neidiodd ei wŷr ar ei ôl, y cwmni o ddeuddeg yn gyntaf-gallent fod yn frodyr iddo; yna y fyddin werdd i gyd, yn ysgafn ac yn hoywyllt. Ymgodai 'r arweinydd uwch eu pennau megis fflam ddyrchafedig o'dân. Pe safasai'n llonydd, edrychasai yn dal a llwm fel ffawydden a saif yn unig ar grib mynydd uwchben y môr. Nid oedd na hen nac ieuanc-neu, tybed, ai hen ac ieuanc hefyd fel y duwiau ydoedd ? Yn ei lygaid gleision llosgai tân santaidd a gorawenus. Nid oedd arf ganddo, ag eithrio dagr yn ei law dde, un mor fechan nes ymddangos ohono i'r gelynion yn anarfog fel y neidiai tuag atynt. Yn gyntaf, rhoes hwb, ac yna neidiodd ag un goes wedi ei hestyn ymlaen yn uchel iawn, wedi ei phlygu dipyn o flaen y llall, a'r un pryd ysgydwai ei fraich yr ochr arall ar draws ei gorff. Ond yn wir, bob tro yr edrychwn arno-ac arno ef yr edrychwn fwyaf-yr oedd yn uchel yn yr awyr, a'i ben i fyny ac wedi ei daflu'n 61, a'i ben lin bron gyfuwch â'i ên. Canai hefyd