Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Ni throdd y dynion ysgarlad. Rhedasant yn gyflym yn awr, a'u .cefnau a dderbyniodd bicellau'r dynion gwyrdd fel y tyrrent i mewn i'r .goedwig. Yr oedd y canwr, y neidiwr, tal, di-arf, megis petai ymhobman, uwchben ac o'u cwmpas, yn troi ymosodiad a hyrddiad y dynion gwyrdd yn rhywbeth hardd, goleulon, fel dyfodiad y Gwanwyn ym mis Mawrth, gan wneuthur hyd yn oed y coed yn erchyll i 'r ffoedigion ysgarlad a redai yma ac acw yn ddison i'w hangau. Ni adawyd yn fyw gymaint ag un o'r gorchfygedig, oherwydd yr ychydig a ddihangodd rhag eu hymlidwyr ni -allent ddianc rhag y niwl, nac ychwaith rhag cân yr arweinydd gwyrdd, ond yn angau, a hwnnw a roesant iddynt eu hunain mewn tristwch. "Nid yw'n syn gennyf na allai ei elynion wrthsefyll dawnsio a chanu'r gorchfygwr, oblegid i mi yr oedd yn ddwyfol, ac mor gyffrous fel na allwn lai na cheisio ei ddynwared mewn cân a dawns fel y cerddwn ymlaen dan freuddwydio. "Ni ddigwyddodd dim fel yna i mi erioed," ebr Mr. Stodham. "Ond yr oeddwn yn meddwl mai brwydr iawn a olygech. Y mae'n dda ichwi nad aeth dim byd trosoch, os oeddech yn breuddwydio fel yna wrth gerdded ar hyd y ffordd. (Cyfieithiad ydyw'r stori hon o un bennod o lyfr y llenor Cymreig Edward Thomas, The Happy-go-Lucky Morgans, a gyhoeddwyd yn 1913. IRhaid diolch i 'r cyhoeddwyr, Mri. Duckworth a'i Gwmni, ac i weddw Edward Thomas, am fod mor garedig â chaniatáu ei hargraffu yn LLEUFER. Caiff pawb ei dehongli yn ei ffordd ei hun; i mi, ffantasi ar ddyfodiad y Gwanwyn ydyw. — D.T.) Dywaid rhai mai Shakespeare 'oedd y cyntaf i sôn am y genhinen werdd yn llysieuyn arbennig Cymru, ond mewn trafcdaeth bapur newydd yn ddiweddar sylwodd rhywun fod cofnodiad amdani dros chwarter canrif cyn ei eni ef. Dyfynnodd o gyfrifon Pwrs Preifad y Dywysoges Fari am y cyntaf o Fawrth 1537, fod pymtheg swllt wedi ei dalu i'r "Yeoman of the Guard"—"for bringing a leek to her Grace on St. David's Day." Y mae gennyf i barch i'r deddfau sy'n llyfnu iaith, eithr nid i'r mympwyon sy'n ei llygru hi. — Emrys ab Iwan.