Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIOGELU DIWYLLIANT GAN E. CADVAN JONES Diogelu Diwylliant, gan Hywel D. Lewis. Gwasg y Brython, Lerpwl. 3/6. Casgliad o ysgrifau ydyw'r llyfr hwn, ac er ei fod yn llyfr bychan y mae 'n werth ei brynu yn ogystal â 'i ddarllen. Trwyddo deuwn i gysylltiad agos â gŵr y mae 'n fraint ei adnabod, a geilw ei farn a 'i gyngor am ystyriaeth fanwl. Llwydda'r awdur i'w roddi ei hunan inni yn ei lyfr. Yn wir, nid ffôl o beth fyddai ei gosod hi'n dasg i ddosbarth W.E.A. weithio allan hanes a "charitor" Mr. Lewis o'r ysgrifau hyn. Fe ddylai'r aelod mwyaf di-ddychymyg o'r dosbarth fedru dweud nid yn unig ymha ardal y magwyd ef, i ba ysgol a choleg yr aeth, pa athronydd a adawodd yr argraff ddyfnaf ar ei feddwl, etc., ond hefyd i ba enwad crefyddol y perthyn, a pha fath o gwmniwr ydyw-yn enwedig ymhlith yr etholedigion-y rhai, er enghraifft, a wyr y parodi y cyfeiria ati yn ei nodiad ar t. 55 Ceir'chwe ysgrif yn y gyfrol, pump ohonynt yn gymharol fyr, a'r olaf gyhyd â thair o'r lleill gyda'i gilydd. Yr ysgrifau athronyddol sydd yn rhagori. Y mae'r ysgrif ar "Y Bardd a'r Athronydd" yn batrwm go berffaith o'r hyn y dylai ysgrifau o'r fath fod. Y mae'n gynhwysfawr heb fod yn faith, yn ddwfn a threiddgar heb fod yn dywyll, yn ysgolheigaidd heb fod yn rhodresgar, yn wreiddiol heb fod yn newydd-fympwyol, ac yn awgrymu cefndir llenyddol cyfoethog heb ddyfynnu ond y nesaf peth i ddim. Os yw'r ysgrif hon yn ernes deg o'r hyn sydd yn llyfr newydd Mr. Lewis a ddaw o'r wasg cyn hir ar "Morals and the New Theology," y mae gennym Ie i ddisgwyl pethau gwych. Ysgrif werthfawr iawn hefyd yw'r un ar "Y Gelfyddyd o Wrando." Hoffaf yn fawr y pwyslais a roddir ynddi ar wrando fel gweithgarwch creadigol ar ran y meddwl a'r ysbryd, yn hytrach na rhywbeth goddefol. Ein perygl o hyd ydyw "setlo i lawr i wrando," yn hytrach na chodi ar flaenau ein traed, ac fel yr awgryma'r awdur, ym myd crefydd y cam- arweinir ni bellaf o anghofio'r perygl hwn. "Wrth eneidiau llawn a phrysur mewn pethau ysbrydol y sieryd Duw." (t. 26). Nid llais ein Tad yr hwn sydd yn y Nefoedd a ddaw i lawr i'r galon pan fo dyn yn ymddatod yn llwyr ac yn ceisio gwacáu ei feddwl, ond "holl leisiau'r greadigaeth" a ddaw i fyny o seler yr anymwybod, ac yn eu plith "holl ddeniadau cnawd a byd’ ’­a'r rheini ysywaeth yn ami wedi ymwisgo yn rhith angylion y goleuni. "Minor operation" sydd gan yr awdur mewn llaw yn ei ysgrif gyntaf, ac nid yw 'n defnyddio ei ynnau mawr. Er hynny dwg ei farn i fuddugoliaeth â'r rhwyddineb mwyaf. Trueni bod dyn o safle Dr. Joad yn ysgrifennu mor awdurdodol am Gymru a Chymraeg heb wneuthur yr ymgais lleiaf i wybod y ffeithiau. Ond iddo ef ei hun y gwna'r niwed mwyaf yn y pen draw, ac nid Gymru a'i phobl, wrth ysgrifennu ar ei gyfer fel hyn. Yn anffodus, nid dyma'r tro cyntaf iddo gael ei ddal yn yr un camwedd. Yn ddiddadl, calon y gwir a ddywaid yr awdur yn ei ysgrif ar "Feirniadaeth Adrodd." Yr oedd hi'n hen bryd galw sylw at y pwnc, ac