Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"LLIO PLAS Y NOS" GAN R. ALUN ROBERTS Llio Plas y Nos, gan R. Silyn Roberts. Gwasg Gee, 3/ Pan glywais achlust ddiwedd y flwyddyn o'r blaen fod stori gan Silyn i'w chyhoeddi yn fuan teimlwn ddyfod chwa i'm suo, Chwa o'r mynydd distaw pell, Chwa o'r mcroedd glas di-ruo Ddwg i gof y dyddiau gwell." Cefais un o'r iasau rheini, megis y cofiwn ei chael ddeng mlynedd ar hugain yn ôl wedi darllen yn rhywle-Y Genhinen, fe ddichon-ysgrif "Ar adenydd Hiraeth" gan Sarnicol. Ac felly y mae hi; ofer disgwyl caffael yn ddyddiol brofiadau mawr o'r fatlv — sparks from a smithy that have fired a thatch" y geilw Masefield hwy, onid e? A phan ddaeth y copi o "Llio Plas y Nos," gweled yn y rhagair iddo gan olygydd Lletjfer "fod delw Silyn yn drwm ar y stori," ac y ceir un o'i hoff eiriau, "gwyllnos," hyd yn oed yn y frawddeg gyntaf. Doder ym mhen hyn oll leoli 'r stori yn Nyffryn Nantlle, a gwelir nad hawdd ydoedd nacáu cais y golygydd craff am air arni-gair, nid o adolygiad, ond yn hytrach o olrhain rhai hen atgofion am Silyn, o'n dyddiau cynnar ac o gloddio sylfeini ar odreon Cwm Silyn a chwr Llanllyfni, gan gofio bod bellach genhedlaeth wedi codi nad adnabu mo Joseff. Ac wrth gychwyn, teg ydyw mynegi ddarfod i'r stori hon ymddangos o wythnos i wythnos yn 1906, yn Y Glorian, papur wythnosol ardal Ffes- tiniog. a Silyn ar y pryd yn weinidog yn Nhanygrisiau. Dichon y gallai'r cyfarwydd, pe ceisiai hynny, ganfod olion yr asio, ddarn wrth ddarn, yn rhediad y stori, a oedd yn dra thebyg o ddigwydd dan amodau o'r fath. Soniais eisoes leoli'r stori yn Nyffryn Nantlle, ond ag eithrio'r bennod gyntaf nid oes dim yng ngwead y stori a'i gwna yn arbennig i'r ardal honno ac yn "ecotypical" ohoni. O ran ei rhediad a'i defnydd gallesid bod wedi lleoli'r gweddill ohoni yn unman arall yng Nghymru wledig heb amharu dim oll arni. Ond y mae'r bennod gyntaf-ei phrolog fel pe tai-yn dra arbennig i hen ardal Silyn, lle y mae'r sôn am fywyd cyfoes yr ardalwyr, a'r newid a ddaeth yn sgil diwydiant, ynghyda dulliau'r trigolion o dreulio min- nos-ha wedi noswyl. Ond nid ydyw dywedyd hyn yn awgrymu o gwbl nad yw'r stori drwyddi yn dra nodweddiadol o Silyn. Y mae'n union felly, ac i'r cyfarwydd ceir Silyn yn ei nerth ar bob tudalen ohoni. Ceir cyweirnod chwerw-felys yr holl stori yn gynnar ynddi (t. 5-6). A dwg hyn fi at graidd a chalon y cwbl y carwn ei draethu. "Chwerw-felys" a ddywedais, onid e — dulcamara, i arfer gair ysgolheictod-ac fel y carai Silyn air o'r fath o'r hen fyd clasurol, a'r cyfoeth a'r cysur a dynnai o'r cyfryw i'w fwynhad ei hun, a'r defnydd a wnâi ohono wrth helaethu arno mewn cwmni cytûn