Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PA BETH l'W DDARLLEN 4. AR GYFLWR Y BYD GAN ALWYN D. REES Testun eang i awgrymu llyfrau arno yw "Cyflwr y Byd," testun sy'n amrywio llawer yn ei ystyr a'i gynnwys yn ôl cefndir a diddordeb yr athro neu'r myfyriwr. Cwrs a gefais i'n ddefnyddiol iawn yn y blynyddoedd diweddar yw'r hyn a alwaf yn Ddaearyddiaeth Wleidyddol-cymryd nifer o wledydd, neu gyfandir, yn faes llafur, rhoi ychydig nosweithiau i bob gwlad, a gwneud astudiaeth gyfansawdd o'i daearyddiaeth, ei hanes, ei diwylliant, ei bywyd economaidd, ei gwleidyddiaeth, a'i pholisi tramor. Diben y cwrs yw ceisio deall problemau cyfoes o safbwynt trigolion gwledydd eraill yn ogystal ag o safbwynt ein gwlad ein hunain. Ond o'r braidd y medraf awgrymu llyfrau ar gwrs felly tra bo'r gair "byd" yn nheitl yr ysgrif. ac fe achubodd y Golygydd fi rhag chwilio am enwau llyfrau ar bob gwlad o dan haul drwy gyfieithu "Cyflwr y Byd" yn "International Relations. Fe'm cyfyngaf fy hun felly i lyfrau sy'n ymwneud â'r berthynas rhwng gwledydd a'i gilydd, ac fe'u rhannaf yn fras i ddau ddosbarth — (1) Llyfrau sy'n trafod cydberthynas y gwledydd yn hanesyddol ac yn ddisgrifiadol, (2) Llyfrau sy'n delio â chynlluniau a threfniadau ar gyfer llywodraeth gydwladol. Rhaid i 'r neb a fynno ddeall cyflwr y byd heddiw fod yn gyfarwydd â hanes gwleidyddiaeth gydwladol oddi ar Ryfel 1914-18, a dweud y lleiaf, ac ni ellir dechrau â llawlyfr gwell nag International Relations since the Peace Treaties, gan yr Athro E. H. Carr. Ceir cyfieithiad Cymraeg ohono gan Stephen J. Williams yn "Cyfres y Brifysgol a'r Werin." Cydberthynas y Gwledydd wedi'r Cyfamodau Heddwch. Llawlyfr defnyddiol arall sy'n olrhain yr hanes hyd at Ryfel 1939yweiddoG. M. Gathorne-Hardy, A Short History of International Affairs. Y mae Britain and the Dictators, gan R. W. Seton-Watson, yn werthfawr hefyd er mwyn deall y digwydd- iadau a arweiniodd i Ryfel 1939-45. Ar yr ochr economaidd deil llyfr enwog J. M. Keynes, The Economic Consequences of the Peace, yn bwysig er deall yr anawsterau a ddilynodd y Rhyfel o'r blaen; ac i weld cefndir economaidd Rhyfel 1939 dylai 'r efrydydd geisio mynd trwy lyfr A. W. Arndt, Economic Lessons of the 1930's, lle y ceir dadansoddiad o bolisi economaidd Prydain, Ffrainc, yr Unol Daleithiau, a'r Almaen. Dyry W. Fitzgerald inni gefndir daearyddol problemau gwleidyddol Ewrop yn ei The New Europe, a cheir trafodaeth boblogaidd sy'n pwys- leisio'r ochr economaidd gyda gogwydd i'r chwith gan Hilda Monte, The Unity of Europe. Wrth edrych ar y byd wedi i'r Rhyfel ddyfod i ben, daw tair rhanbarth i 'r amlwg fel mannau lle y gwelir y Galluoedd Mawrion eisoes yn ymgiprys â'i gilydd am safleoedd milwrol, sef Dwyrain Ewrop, Y Dwyrain Agos a'r Dwyrain Pell. Cafwyd llyfrau da ar ddwy o'r rhanbarthau hyn yn ddiweddar. Yn gyntaf, llyfr H. Seton-Watson, Eastern Europe between the Two Wars,