Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn nesaf, dyma ychydig o lyfrau'n galw am drefn gydwladol eto ar ôl Rhyfel 1939-45. Dadleua D. Mitrany am gyfundrefn gydwladol weithredol (functional) yn ei lyfryn, A Worhing Peace System. Ceir crynodeb o wahanol gynlluniau a sustemau-Dumbarton Oaks, Bretton Woods, UNRRA, ac yn y blaen-gyda sylwadau arnynt, gan Henry Carter: Towards World Recovery. Llyfr gwerth ei ddarllen yn y traddodiad rhyddfrydol yw eiddo Syr William Beveridge: The Price of Peace. Cyn bo hir daw pamffledi ar Gyfundrefn y Cenhedloedd Unedig, ond yn y cyfamser rhaid dilyn y papurau newydd, erthyglau yn The New Statesman and Nation, The Economist, a "Chwrs y Byd" yn Y Faner. Fel yr awgrymwyd eisoes, pregethau a chynlluniau paradwysaidd oedd cynnwys llawer o'r llyfrau ar gydberthynas y gwledydd a gafwyd rhwng y ddau Ryfel. Y maent yn llawn o fwriadau da, ond tueddant i fod yn or-hyderus yn eu tyb y gellir setlo'r broblem o lywodraethu dynoliaeth— problem a fu'n drech na synnwyr a phrofiad canrifoedd-yn syml drwy wneud cynlluniau destlus ar bapur. Er mwyn i 'r myfyriwr gadw ei draed ar y ddaear, dylai ar bob cyfrif geisio darllen llyfr E. H. Carr, The Twenty Years' Crisis, llyfr braidd yn ddigalon, a sgrifennwyd wedi i'r gobaith am osgoi rhyfel arall ddiflannu, ond yn sicr y llyfr pwysicaf ar wleidyddiaeth gydwladol hyd yn hyn. Wedi iddo chwalu'r delwau, aeth yr Athro Carr ati i sgrifennu llyfr arall, The Conditions of Peace, lle y cais ddadansoddi argyfwng yr oes mewn modd mwy adeiladol. ac awgrymu ffordd ymarferol i'r cenhedloedd ddatblygu trefn newydd. Er nad oes lawer o "ddelfryd- iaeth" yn y llyfr, portreada fyd a fyddai 'n nefoedd o'i gymharu â'r anhrefn orffwyll sydd ohoni'n awr. Gan yr un awdur cafwyd llyfr pwysig arall, Nationalism and After. Ni ellir deall cyflwr y byd yn iawn, hyd yn oed o'r safbwynt cydwladol' heb sylweddoli argyfwng cyffredinol ein gwareiddiad, ac ar y cefndir ehangach hwn awgrymaf H. J. Laski: Reflections on the Revolution of our Time; Erich Fromm: The Fear of Freedom; Peter Drucker: The End of Economic Man, a The Future of Industrial Man; a Lewis Mumford The Condition of Man. RHAI O AWDURON Y RHIFYN Dr. W. R. Angus, o Aberdeen-Darlithydd mewn Fferylliaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Dr. Illtyd David-Athro Dosbarthiadau ar Staff Coleg y Brifysgol, Abertawe. E. David Evans-Ffarmwr, aelod o Ddosbarth Llangybi, Eifionydd. Meredydd Evans, o Ffestiniog-Myfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor; Llywydd etholedig y Myfyrwyr am y 1946-47. Alwyn D. Rees, y Drefnewydd-Athro Dosbarthiadau ar Staff Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.