Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MUDIAD YN Y DE Gan DAVID E. EVANS III Y mae 'n anodd iawn i ddarllenwyr yn y Gogledd ddeall ein hanawsterau ni yn y De. Tebyg fod llawer ohonynt yn hen gyfarwydd â dyfod am dro i'r De, fel y bûm innau droeon am wyliau'yn y Gogledd. Ond nid yw hyn o bell ffordd yn ddigon inni ddeall problemau ein gilydd. Gwelais hynny yr haf diwaethaf mewn Ysgol Haf Ddibreswyl yn Sir Gaernarfon. Teimlwn mai peth dymunol iawn fyddai i ambell goliar o Gwm Rhondda fynd am wythnos i Lanberis, ac i'r chwarelwr fynd am wythnos i Gwm Rhondda. Rhoddai hyn gyfle i 'r ddau i ymweld â Dosbarthiadau, a sylweddoli bod y mudiad yn gwahaniaethu llawer, a bod ein problemau addysg yn dra gwahanol. Dyna un o fendithion mwyaf Ysgolion Haf yng Ngholeg Harlech, sef eu bod yn ein dwyn ni fel Mudiad yn nes at ei gilydd. Beth ydyw'r gwahaniaethau mwyaf rhwng Adrannau Gogledd a De? (a) Y mae'r Gogledd ar gyfartaledd yn llawer mwy Cymreig; (b) Y mae poblogaeth Adran y De gymaint bedair gwaith â phob- logaeth Adran y Gogledd; (c) Tiriogaeth un Coleg yn unig, sef Bangor (a rhyw ychydig o diriogaeth Aberystwyth), sydd gan Adran y Gogledd, ond y mae gan y De dri Choleg, sef Aberystwyth, Abertawe, a Chaerdydd; (d) Yn y De y ceir prif swyddfeydd, a'r rhan fwyaf o ymdrechion, mudiadau fel y Cyngor Cerdd, y Y.M.C.A., y Settlements, a'r N.C.L.C. (e) Xid yw perthynas y W.E.A. â'r Pwyllgorau Addysg yr un fath yn hollol yn y Gogledd ag yn y De. Y ddau bwnc llosg ar hyn o bryd ydyw perthynas y W.E.A. (a) â'r Brifysgol a'r Colegau, ac (b) â'r Awdurdodau Addysg. Diddorol, pe bai gofod, fyddai olrhain ymdrechion yr arloeswyr cynnar i greu diddordeb y Brifysgol a'r Colegau yn Addysg Pobl mewn Oed. Cyn gynted ag y dechreuwyd yr ail gynnig i sicrhau Prifysgol i Gymru, gwelwyd yn amlwg iawn ddwy duedd-yn gyntaf, tuedd i gyfyngu holl waith prif- athrofaol Cymru i 'r tri choleg, a'r duedd arall, i ddwyn addysg brifathrofaol i gyrraedd y werin, drwy'r Unẁersity Extension Movement, neu rywbeth cyffelyb. Un o gefnogwyr pennaf y Mudiad Allanol oedd y Parch. Ellis Edwards; dvna oedd byrdwn ei lythyr i 'r Prifathro Viriamu Jones ym mis Mai 1891 "Efallai ichwi weld bod Coleg y Brifysgol, Bangor, wedi penodi Pwyllgor i ystyried unwaith eto sut i gael Prifysgol i Gymru, a hawl ganddi i roddi graddau, a'i bod am ofyn am gydweithrediad Pwyll- gorau wedi eu penodi gan Gaerdydd ac Aberystwyth. "Cawsom un eisteddiad eisoes, a rhoesom ein barn mai un Brifysgol a ddylai fod, ac y dylai fynnu cael addysgu a mynychu darlithoedd, ac y dylai hefyd ei gyfrif yn rhan hanfodol o'i gwaith ledaenu breintiau Addysg Prifysgol trwy rywfoddion tebyg i 'r hyn a ddefnyddia 'r Unẁersity Extension Movement.