Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ysbryd cenhadol y W.E.A., a hwnnw'n troi allan deip arbennig o fyfyrwyr, -diragfarn, diduedd, ie, a di-ddim hefyd. Edrychant yn ddirmygus ar y rhelyw o'u cydweithwyr, ac nid ydynt o ddim gwasanaeth mwyach i'w hen gylchoedd, ond byw iddynt eu hunain yn unig. Clywais yr un gwyn am hen fyfyrwyr Coleg Harlech hefyd, ond teg yw atgoffa'r bobl hyn sydd yn cwyno fod ysgrifenyddion y W.E.A. — Adrannau Gogledd a De-yn hen fyfyrwyr Ccleg Harlech! Y mae ysgol arall. Cred hon na fedrodd y Brifysgol a'r Colegau erioed roddi eu gorau i'r mudiad. Nid hyrwyddo Addysg Pobl mewn Oed yw gwaith priod yr un ohonynt, na, rhyw atodiad di-nod yw'r Dosbarthiadau Tu Allan, ac ni ddaw llewych byth ar fudiad Addysg Pobl mewn Oed nes cael ohonynt ryw gorff newydd i'r pwrpas arbennig hwnnw. boed ei ganolfan yng Ngholeg Harlech neu mewn rhyw Ie cyffelyb arall. Mewn gair, cred yr ysgol hon fod y mudiad bellach wedi cyrraedd ei lawn dwf, a'i fod yn abl i sefyll ar ei draed ei hun. Peth hawdd yw condemnio'r hen gyfundrefn, peth arall yw ceisio portreadu cynllun newydd, a rydd inni yr an ìibyniaeth, y brwdfrydedd, a'r gweithgarwch, heb golli dim o ragoriaethau cydnabyddedig yr hen gyfundrefn. Fe ddylai problem cydweithrediad fod yn symlach yng Nghymru nag yn Lloegr, o achos nid oes gennym ond pedwar Corff Cyfrifol yng Nghymru: Colegau'r Brifysgol; y W. E. A. y Cyngor Cerdd a'r Y. M. C. A. ac yr ydym wedi medru cyd-dynnu bellach ers blynyddoedd. Y cwestiwn pwysicaf oll ar hyn o bryd ydyw, Tybed a yw 'r Pwyllgorau Addysg hwythau yn cyfranogi o'r un hynawsedd ysbryd, neu a ydynt yn debyg o ddangos culni a sofraniaeth ddiwahân yn hyn o beth? Dylem atgoffa pobl mai'r W.E.A. sydd yn gyfrifol am 81 y cant o waith Addysg Pobl mewn Oed a gynhelir o dan Reolau'r Weinyddiaeth Addysg. CYWIRO Gwaith diflas yw cywiro gwallau, ond gwaith anonest fyddai peidio. Pan ddigwyddo camgymeriad ar ddalennau LLEUFER (oddieithr iddo fod yn rhywbeth y gall y darllenydd ei gywiro drosto'i hun) fe'i cywirir cyn gynted ag y bydd yn bosibl, rhag gadael amser iddo gerdded. Dyma rai gwallau a ddigwyddodd yn y ddau rifyn diwaethaf: Rhif 3, t. 26, 11. 38, Darllener Traethodau yn lle Astudiaethau. t. 28, 11. 18, Darllener bu farw yn lle claddwyd. Rhif 4, t. 7, 11. 14, DarIlener" gweithgarwch y (yn Ilea) diwydiannau. t. 8, 11. 24-5, Croeser ymaith y cwbl sydd rhwng y ddau gomma — ac felly cyfanrif 0 2R yn colli gwaith yn y diwydiannau cyfalaf. t. 28, 11. 25, Ar Staff Abertawe (nid Aberystwyth) y mae Dr. T. Hughes Griffiths.