Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Clychau Buddugoliaeth, gan Gwilym R. Jones. Gwasg Gee, 1/6. Am ddrama i gorau adrodd y gofynnodd Pwyllgor Eisteddfod Genedl- aethol y Rhos, 1945, a dyna a gawsant gan Gwilym R. Jones. Y mae nodweddion angenrheidiol drama o'r fath yn "Clychau Buddugoliaeth"- sefyllfa arbennig, cymeriadau a'u hymateb i'r sefyllfa, cyfle i symudiad ac ystum, a digon o amlygrwydd i'r corysau. Ni wn a berfformiwyd hi eto, ond credaf y gellid, gyda gofal a thrafferth, ei llwyfannu’n effeithiol. Y mae'r cyfarwyddiadau hefyd trwyddi yn gynnil a phwrpasol. Clochdy eglwys ar ddydd cyhoeddi buddugoliaeth Prydain yn y rhyfel diwaethaf ydyw cefndir y chwarae. Cyfyd y llen ar Ddeon a Chlochyddion yn y clochdy. Cenir y clychau, ac yna gorffwysa'r Clochyddion am ennyd i fwynhau 'r bwyd a'r ddiod a ddygir iddynt gan y Merched Ieuainc, aelodau o gôr yr eglwys. Ymhen amser daw Ysbrydion y rhai a syrthiodd yn y rhyfel i mewn, ac ar ollyngiad y llen ciliant, a dilynir hwynt gan y Merched Ieuainc. Dyna Bersonau'r Ddrama, a'r prif symudiadau. Eithr yn ymateb y cymeriadau i'w gilydd ac i derfyn y rhyfel y gorwedd crefft a phrif werth y ddrama. Nid personau unigol mohonynt yn gymaint â chymeriadau sumbolig. Gwêl y Deon, fel llawer o'i gyd-offeiriaid, ôl llaw Duw yn gwared ei ddewisedig bobl o'u cyfyngder. Y mae rhyfel iddo ef yn "rhan o ogoniant hir hanes teulu dyn" (sylwer mai vers libre yw'r mydr), a chyfiawnheir y boen a'r pryder a'i dilyn gan mai "Trwy ddirfawr boen y dyrchafwyd Eneiniog Duw. Esmwythyd a llawnder y byd newydd sydd ym meddyliau 'r Clochyddion. Ymorchestant yn y meibion glew a syrthiodd, a gofidiant amdanynt, ond y fuddugoliaeth sydd uchaf yn eu meddwl. Gwahanol iawn ydyw'r Merched Ieuainc. Geilw seiniau'r clychau i'w cof y rhai na chlywant mohonynt mwy. Golyga heddwch iddynt ddyfod dydd dioddef i ben, ond nid gogoniant rhyfel a welant eithr maint y golled. Iddynt hwy, gwr yw'r Deon "sy'n galw'r drwg yn dda." Heriant y Pen Clochydd oedrannus: "Pa hawl a oedd gennyt i afradu bywyd ifanc ?" Gallant hwy, a hwy'n ieuainc, gydymdeimlo â chenhedlaeth a aberthwyd. Hyn a'u galluoga i weld yr Ysbrydion pryd nas gwelir hwynt gan y Deon a'r Clochyddion. Daw'r Ysbrydion yn ôl i holi am yr heddwch a brynasant mor ddrud. Aethant i ryfel, eithr estroniaid oeddynt yno, a dyheant am eu rhyddid coll. Yno, er hynny, cawsant brofi cyfeillach wir; gwybuant am ddynion yn un yn wyneb angau, ond hawliwyd hwynt ganddo, daeth terfyn ar eu stori, "ac nid oes a'i hedrydd mwy." Gofynnant: "Ai ofer ein hir drafael?" a rhoddir iddynt yr atebiad truenus: "Ni fedrwn ni-eich ateb. Gwyn fyd na allesid ei hateb­yn negyddol. Dyma yn wir waith llenor a bardd. Gwir fod y farddoniaeth weithiau 'n gyffredin, ond gwneir iawn am hynny mewn rhannau eraill lle y mae'r farddoniaeth yn wirioneddol wych. Ar bob cyfrif, darllener hi. MEREDYDD EVANS