Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Peiriannau Amaethyddol — Atal Damweiniau; Poríhi at Laeth Gaeaf; Diheintio Hadyd. Dalennau "Growmore." I'w cael yn ddi-dâl gan Adran Gymreig y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, 17 Eastgate, Aberystwyth. Y mae porthi gwartheg godro'n gelfyddyd arbennig, a gellir dweud bod porthwr da wedi ei eni i'r gwaith, fel y dywedir am ambell fardd ei fod wedi ei eni'n fardd. Yn Nalen "Growmore", Rhif 80, sef "Porthi at Laeth Gaeaf," y mae cyfarwyddyd lled dda at y gwaith. Rhoddir llawer o Ie i Silwair, a bwydydd cartref, er mai cymharol ychydig a dyfir ohono yng Nghymru oherwydd mai bychan o ran maint yw'r mwyafrif o'r ffermydd, ond tyfir llawer mwy o gêl a phys yn gymysg ag yd. Gallesid rhoi mwy o Ie yn y rasiwn i ground nut meal, gan mai dyna'r ffordd rwyddaf i wneud cymysgedd gartref mewn ffarm nad yw'n gyfaddas i dyfu llawer o fwyd yn cynnwys protein. Syniad da yw'r un sydd yn niwedd y pamffled, sef y dylid porthi gwartheg cyflo hysbion am chwech wythnos cyn iddynt fwrw eu lloi â'r un rasiwn ag a roddir i fuwch sy'n rhoi galwyn y dydd o laeth. Dylasai'r awdur ddweud hefyd mai 33 pwys o "fwyd sych" a all buwch gyffredin ei dreulio mewn diwrnod. Pan fydd eisiau lleihau ychydig ar y gwair a'r silwair neu wellt i un sydd yn godro n drwm-dyweder, bedwar galwyn a throsodd-a chodi yn y blawd ar gyfer hynny, dylid cofio bod y rhan fwyaf o fuchod Cymru o dan ddeg cant o bwysau, ac y gall ychydig llai o bwysau o fwyd wneud y tro nag i rai deuddeg cant, fel rhai a fagwyd ar diroedd breision Lloegr. Hoffwn weld llyfryn Cymraeg ar wartheg llaeth, tebyg i "Dairy Cows and their Management," a gyhoeddwyd yn ddiweddar am goron gan B. M. Cookson. Braidd nad oeddwn yn teimlo mai cyfieithiad o bamffled Saesneg ydyw hwn, ac nid un a sgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y ffarmwr Cymreig. E. D. Evans CYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr-Ernest Green, 38a St. George's Drive, London, S.W.l. Trefnydd Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- D. T. Guy, Swyddfa'r W.E.A., 38 Charles Street, Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- C. E. Thomas, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. Golygydd LLEuFER-David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER — D. Tecwyn Lloyd, Pen-y-Bryn, Glanrafon, ger Corwen. Dosbarthwr LLEUFER—Miss Vera Thomas, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. Gellir cael ôl-rifynnau o LLEUFER gan y Dosbarthwr; saith geiniog y rhifyn ydyw'r pris drwy'r post.