Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cyf. II HAF 1946 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD Un o egwyddorion sylfaenol democratiaeth fel y deallwn ni hi yng ngwledydd y Gorllewin ydyw bod gan bawb hawl i'w farn ei hun ar fater cyhoeddus, a hawl i'w thraethu a cheisio argyhoeddi ei gyd-ddynion. Os ydyw pawb i gael yr un chwarae teg, ni ellir estyn i bobl sydd yn coleddu syniadau arbennig yr hawl i'w traethu, a gwrthod yr hawl honno i bobl o syniadau gwahanol. Credwn ni ddemocratiaid yn yr egwyddor hon, nid yn unig o ran hawliau'r person unigol, ond hefyd ar les y wlad. Y mae cyfyngu ar ryddid llafar dyn yn crebachu ei feddwl, a rhwystro iddo dyfu, ac os na chaiff pob mab a merch ryddid i ddatblygu eu meddyliau i'w llawn faint, rhyddid i'w meddyliau i grwydro i bob cyfeiriad, a phrofi pob peth, yna fe fydd eu personoliaeth gymaint â hynny'n llai, a'r wlad gymaint â hynny'n dlotach. Mantais i bawb ohonom ydyw cyfnewid syniadau; nid yw neb yn feddiannol ar y gwirionedd i gyd. "Byddwch yn dysgu mwy", meddai Dr. Glover, "oddi wrth y bobl a fydd yn eich gwrthddywedyd, ac yn herio eich syniadau, nag oddi wrth y rhai nad ydynt yn ddim ond adleisiau o'r hyn a ddywedwch eich hun." Y mae'r egwyddor hon yn bwysig ym myd Addysg; hon ydyw un o egwyddorion sylfaenol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Nid plannu syniadau arbennig ym meddyliau ei ddisgyblion ydyw gwaith athro ysgol, er enghraifft, ond eu goleuo, a dysgu iddynt feddwl. Bydd athro teilwng, wrth ddysgu am y Diwygiad Protestannaidd, dywedwch, er iddo fod yn Brotestant ei hun, yn egluro i'r plant ddaliadau'r Pabyddion yn ogystal â rhai'r Protestaniaid-nid yn gymaint er mwyn gwneud chwarae teg â'r Pabyddion, ond er mwyn chwarae teg â'r plant. Ni all y plant-na phobl mewn oed chwaith, o ran hynny-ddeall y Diwygiad Protestannaidd yn iawn heb fod yn gwybod rhywfaint am syniadau'r Pabyddion a'r Protest- aniaid fel ei gilydd, a'r rhesymau paham y synient felly. Bydd athro ar economeg yn egluro i un o ddosbarthiadau'r W.E.A. athrawiaethau Alfred Marshall a J. M. Keynes a Karl Marx, nid er mwyn profi bod un ohonynt yn iawn a'r lleill yn cyfeiliomi, ond i roddi cyfle i aelodau'r dosbarth eu barnu* drostynt eu hunain. Yn ystod y rhyfel, bu raid i'r LlywOdraeth gyfyngu rhywfaint ar ryddid llafar-ni oddefid i bobl fynegi syniadau a fuasai'n gwanychu'r ewyllys i ryfela yn y wlad — ond erbyn hyn y mae'r rhesymau dros wneuthur hyn wedi cilio. Nid yw'r ysbryd anoddefgar a fagwyd gan y rhyfel wedi