Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN MORGAN JONES GAN MARY Silyn ROBERTS Colled amhrisiadwy i Addysg yng Nghymru oedd colli'r Prifathro John Morgan Jones. Bu farw Ddydd Iau, Mawrth 7, yn 72 mlwydd oed. Oddi ar 1925, pan etholwyd ef yn Gadeirydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru, llywiodd y mudiad addysg cymhleth hwn drwy un o'r cyfnodau mwyaf anodd a pheryglus yn ein hanes fel cenedl- cyfnod tlodi enbyd y tri-degau, cyfnod chwalu'r to ieuanc o'u cynefin, cyfnod yr hel ofnadwy at ei gilydd, nid yn ôl adref, ond i'r lluoedd arfog. Cafodd y Prifathro fyw i weled gwawr yn deffroi diadelloedd y "Cymry ar Wasgar'’­trwy'r "Cojion", a LLEUFER, a "Cefn Gwlad." Hawdd iawn fuasai i'r holl chwalu hwn fod wedi tarfu Addysg Allanol y Brifysgol, fel y gwnaeth yn ystod y Rhyfel Mawr o'r blaen, a digalonni canghennau'r Gymdeithas Addysg, ond nid felly y bu. I'r Prifathro John Morgan Jones, ysbardun i ynni newydd oedd pob anhawster, ac fel y codai rhwystr newydd ei ben yr oedd ef ar drawiad yn y fan a'r llè, yn cynnal "Ysgol Undydd," neu "Gynhadledd," neu "Ddarlith Arbennig" ar y pwnc, ac yn calonogi pawbo'i gwmpas i weithgarwch newydd, ac i weld bod gwaith egnïol dros wir addysg yn fwy o werth na'r aur a'r arian a oedd mor brin yr adeg honno. Yn yr ysbryd hwnnw y gwelwyd codi neuaddau heirdd Rhosgadfan a Mynydd Llandygái, a'r neuadd wenithfaen ym Mynytho a "adeiladwyd gan dlodi," lle y cafwyd cartref teilwng i Ddosbarth Bardd yr Haf. 'Doedd ryfedd i'r dosbarthiadau amlhau, ac i'r canghennau ymgryfhau, o dan ddylanwad gŵr o radlonrwydd a dewrder y Prifathro. Cofiwn â hiraeth trwmgalon mor annwyl oedd, ac mor hapus yr edrychai ynghanol criw o chwareîwyr neu lowyr neu dyddynwyr, mor ddirodres ac mor syml ei fywyd, mor chwim ei feddwl a'i ddeall, ac mor amyneddgar, mor ifanc ei ysbryd a llawn o ddireidi, ac mor gadarn ei farn lle byddai egwyddor yn y fantol. Sylfaen y cyfan, yn wir, oedd ei egwyddorion syml a dwfn, seiliedig ar ysbryd a dysgeidiaeth yr Iesu, fel y dysgasom wrth wrando ar ei eiriau ac wrth weithio gydag ef i adeiladu cyfundrefn addysg deilwngi Gymru. Sylfaen ei gred oedd sylweddoli "Tadolaeth Duw a brawdoliaeth dynion," yr argyhoeddiad "fod Duw yn Dad a dynion yn frodyr, a gweled "parch dihafal yr Iesu at ddynion o bob math, y publicanod a'r pechaduriaid, y gwragedd a'r plant." Yr un oedd y Prifathro ymhob man-yn y pulpud, yn ei ddosbarth, ym mhwyllgorau'r Brifysgol — yr un hefyd yn ei holl ymwneud â'r werin bobl. Buddiol inni fyddai ail-ddarllen ei ysgrif yn rhifyn cyntaf LLEUFER, 1944, ar "Y Gobaith am Well Addysg, a dal ar ei eiriau ynghylch yr angen am "argyhoeddi'r werin yn gyntaf oll, a thrwyddynt hwy yr eglwysi, y Pwyllgorau Addysg, a'r Llywodraeth, o dri pheth o leiaf: