Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn gyntaf, mai rhoi addysg wir a chyflawn i bawb yw gwaith pwysicaf pob cenedl, pob cymdeithas, a phob llywodraeth; Yn ail, fod addysg wir yn parhau o'r crud i'r bedd, ac yn bwysicach i bobl mewn oed nag mewn unrhyw gyfnod; Yn drydydd, mai hawl y plentyn neu'r un sy'n derbyn addysg, yw'r hawl gyntaf wrando arni, nid hawl rhieni nac eglwys, nid hawl llywodraeth na phwyllgorau addysg, nid hawl athrawon na galwedigaeth na masnach, ond hawl y disgybl fel person dynol i dyfiant llawn a bywyd cyflawn." Dyna genadwri fawr John Morgan Jones--cyfrifoldeb y dyn unigol, a'i swydd mewn cymdeithas. RHAI Ol DDYWEDIADAU Addysg Pobl Mewn Oed.-O bob mudiad yng Nghymru, hwn, yn ddiau, yw'r mudiad pwysicaf o lawer i ddyfodol y genedl a'r iaith, a hynny nid yn unig i addysg, ond i wleidyddiaeth, llenyddiaeth a chrefydd Cymru. Tybiaf mai ei dynged sicraf yw creu chwyldro yn syniad y wlad am ystyr a gwaith arbennig y weinidogaeth a'n sefydliadau crefyddol. Nid yw, wrth gwrs, yn mynd i ladd pregethu na lleihau effeithiolrwydd y bregeth dda; ond yr wyf yn argyhoeddedig ers amser bellach ei fod yn sicr 0 ladd y syniad cyffredin am bregethu a lle canolog y bregeth gyffredin ym mywyd eglwysig a chrefyddol Cymru ac yng ngalwedigaeth y gweinidog. A thybiaf mai nid gwasanaeth ffurfiol yr eglwysi catholig a osodir yn lle'r mynych bregethu, ond seiad rydd dosbarthiadau'r W.E.A. Pell ydym o ddweud nad oedd a fynnai'r Iesu â sefydliadau cymdeithasol ac â chymdeithas fel corff a chyfundrefn. Dywedyd yr ydym yn hytrach mai at bersonau unigol y cyfeiriodd ei neges fawr yn ei chyfanrwydd, ac mai iddynt hwy y rhoddodd ei nerth a'i ynni pennaf. Am bersonau y meddyliai ac at ddynion yr apeliai'n fwy na dim. Pan sylwai ar sefyd- liadau a dosbarthiadau cymdeithasol, yn y dynion oedd tu cefn iddynt ac ynddynt yr oedd ei ddiddordeb mwyaf. Teimla llawer yn siomedig am nad oes yn yr Efengyl gynllun perffaith, parod i wella holl ddrygau cymdeithas. Cyfyd hyn o'r ysfa sydd ynom oll am awdurdod anffaeledig ar holl fanylion bywyd, a chyfyd hynny drachefn o'r awydd am rywun a wna feddwl drosom, gan arbed i ni y drafferth o feddwl drosom ein hunain. Gwadu pob egwyddor sydd yn yr Efengyl yw gofyn am ddim o'r fath beth oddi wrthi, a gwae ni pe bai'n bosibl i'r Iesu feddwl a chynllunio drosom. Pell y bo'r dydd na fydd gan ieuenctid Cymru ond cyfle i ddarllen un farn ar unrhyw bwnc, hyd yn oed pe bai'r farn honno'n cytuno'n berffaith â'r farn fach sydd gennyf i. Diolch am bob cam i gyfeiriad rhyddid yr ysbryd.