Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYR PERCY WATKINS GAN THOMAS JONES Ym marwolaeth Syr Percy Watkins daeth gyrfa o wasanaeth nodedig i derfyn. Cyflwynodd ef ei oes faith ar ei hyd i wasanaethu Cymru, ag eithrio saith mlynedd a dreuliodd yn Gyfarwyddwr Addysg Gorllewin Sir Efrog lawer blwyddyn yn ôl. Ganed Syr Percy yn 1871, yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn, ac efallai mai diwrnod hapusaf ei fywyd oedd y diwrnod y cyflwynwyd iddo ddinas- fraint y fwrdeisdref henafol honno-anrhydedd brin iawn. Gweinydd oedd wrth ei swydd, a dysgodd waith y swydd, nid mewn nac ysgol na choleg, na thrwy fynd o"dan gwrs o hyfforddiant technegol neu broffesyddol, ond fesul tipyn, drwy gael profiad o weithio mewn swyddfeydd ac ar bwyllgorau. Ni fu erioed yn fyfyriwr mewn coleg; ni chafodd radd erioed ond y radd anrhydeddus a roddwyd iddo gan Brif- ysgol Cymru. Y mae'n wir iddo fod am bum term yn ddisgybl yn yr Ysgol Ramadeg enwog yng Nghroesoswallt. Dyna'r unig gwrs swyddogol o addysg a gafodd i ymbaratoi ar gyfer bywyd a dreuliwyd gydag ysgolheigion a cholegau, gyda Byrddau lechyd a Byrddau Addysg. Fe'i haddysgodd ei hun mor dda nes gallu symud yn rhydd ac yn rhwydd ymysg dynion a gawsai fanteision llawer uwch nag a gawsai ef. Dyn yn gwybod y rheolau sydd yn llywodraethu'r sefydliad y bo ef yn was iddo, dyna ydyw gweinydd. Bydd yn deall Deddfau Senedd, Gorch- mynion mewn Cyngor, is-adrannau ac ordinhadau, pa bryd y maent i'w cymhwyso, a phryd nad ydynt; gall dywys cynhadledd neu bwyllgor drwy labyrinthau dadl; gall lunio penderfyniad neu ddrafftio gwelliant, fel y bo teimlad y cyfarfod yn gofyn. Ond rhaid iddo wybod, nid y gyfraith yn unig, ond y proffwydi hefyd-y proffesoriaid a'r gwyr lleyg, yr henaduriaid a'r cynghorwyr, y gweinidogion a'r gweision suful; gwybod eu dull o ymddwyn mewn llys neu gyngor, neu bwyllgor, neu gabinet. Yr oedd y pethau hyn i gyd yn fwyd ac yn ddiod i Syr Percy. Byddai wrth ei fodd mewn cynadleddau, a gwyddai sut i grynhoi trafodaeth, pan ddeuai'r amser, mewn penderfyniad y gallai pawb gytuno arno. Aeth y doniau hyn ag ef i Whitehall, ac yno cododd enw da Cymru nifer o raddau yn uwch. Ysbryd creu ac adeiladu a oedd ganddo, o fewn cylch safonau ei oes. Nid oedd yn rhy ymladdgar, nac ychwaith yn rhy ymostyngar. Yn gyffredin, âi yn ei flaen heb na phrysuro na phryderu. Yr oedd arno eisiau cael pethau wedi eu gwneud, ond gweithiai yn agored ac yn onest, nid cynllwyn mewn modd gwyrgam a thwyllodrus; dyn cwbl ddidwyll ydoedd. Yr oedd fel pawb ohonom yn hoffi ei ffordd ei hun yn well na'r un ffordd arall, ac weithiau, yn enwedig fel yr heneiddiai, gallai fod yn ddigon ystyfnig os gwrthwynebid ef. Ond wedi'r dadlau mwyaf cecrus, ni ddaliai ddig. Dyn unplyg i'r eithaf ydoedd yn ei hanfod. Ni ellir mesur swm yr holl waith anhunangar a gyflawnodd dros Gymru-dros y Brifysgol, dros y Cyngor Cerdd, dros Gyngor Gwasanaeth Cymdeithasol, dros y Sefydliadau yn y De, dros Goleg Harlech, a thros Gymdeithas Addysg y Gweithwyr. Hyd y gwelais i, ac mi a' hadwaenwn yn dda, nid oedd ganddo gysylltiadau